Owen Williams
Dechreuad Newydd: Owen Williams ar ddarganfod gyrfa a phrentisiaeth mae’n ei charu
Cyn cofrestru ar y rhaglen brentisiaeth, roedd gan Owen Williams, 33, dair blynedd ar ddeg o brofiad bancio a chyllid. Roedd yn anfodlon am ei waith ac yn ansicr sut i symud ymlaen yn ei yrfa. Yn y diwedd, daeth i’r casgliad nad cyllid oedd ei arbenigedd a dymunai roi cynnig ar rywbeth arall.
Roedd partner Owen wedi bod mewn gofal ers tua 20 mlynedd. Nid oedd Owen erioed wedi bwriadu dilyn gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond ar ôl cael ysbrydoliaeth gan ei bartner, fe wnaeth y newid. Nawr, mae’n mwynhau ei waith yn fawr.
Ynghyd â dechrau gyrfa newydd, roedd Owen hefyd eisiau datblygu ei ddealltwriaeth o’r maes trwy ennill cymwysterau. Mae Owen yn y broses o gyflawni ei Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac eisoes wedi cyflawni’r rhan fwyaf o’r uned graidd. Mae’n honni bod modd treulio’r wybodaeth a’i fod yn wirioneddol fwynhau’r brentisiaeth. Mae Owen yn meddwl y bydd manteision ennill cymhwyster yn cynnig y wybodaeth iddo ac yn dystiolaeth glir o’i frwdfrydedd dros ei yrfa.
“Mae’r cyfan yn newydd i mi. Mae’r cyfan yn ddiddorol. Rwy’n mwynhau dysgu am bob rhan ohono’n fawr.”
Yn ystod ei brentisiaeth, mae Owen wedi dysgu llawer am ddiogelu a’r angen i fod yn dryloyw. Mae’n rhywbeth y mae’n ei werthfawrogi am y rôl. Mae hefyd yn angerddol am ymgysylltu â phobl ac yn credu ei fod yn elfen bwysig o Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
“Rwy’n mwynhau’r cysylltiad â phobl.”
Oherwydd hyn, byddai Owen yn y pen draw yn hoffi gwneud ei Lefel 3 a chyflawni rôl goruchwyliwr maes. Mae am barhau i ryngweithio ag eraill trwy gydol ei yrfa.
Pe gallai Owen roddi unrhyw gyngor i’w hunan ieuengach, fe fyddai : —
“Meddu ar yr agwedd o’i fwynhau. Peidiwch â meddwl amdano fel astudiaeth.”

Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.