Muhammad Islam

Datblygu Hyder, Sgiliau a Syniad o’r Dyfodol: Cynnydd Muhammad

Cefndir

Pan ymunodd Muhammad Islam ag Itec ar y strand Cynnydd roedd o braidd yn ddistaw ac yn swil. Gydag amser, trwy siarad â phobl yn y canolfan a chymryd rhan mewn gweithgareddau, adeiladodd ei hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Cychwynnodd Muhammad lleoliad gyda Maximus diwedd mis Mehefin, wnaeth o ffocysu ar weithio tuag at ei gymhwyster AAT. Arhosodd tan fis Medi, ac yn ystod ei amser una roedd o eisiau datblygu mwy o sgiliau a phrofiad, felly cynyddodd i leoliad gyda The Hangar Gym.

Lleoliad Newidiol

Yn The Hanger Gym, cychwynnodd Muhammad ei gwrs AAT a wnaeth o dasgau ymarferol y gweithle. Roedd hyn yn cynnwys gweithio ar y dderbynfa a chofrestru aelodau newydd, helpu gyda chwestiynau cwsmeriaid wrth gofrestru, glanhau, sicrhau safonau I&D, cefnogi stocio’r pantri, ag ysgrifennu anfonebau.

Rhoddodd y tasgau yma profiad ymarferol mewn gwasanaeth cwsmer a dyletswyddau cyffredinol y gweithle i Muhammad.

Cymwysterau

Yn ystod ei leoliad derbyniodd Muhammad: AAT Lefel 1 a Chyflwyniad i Sgiliau Cyflogaeth Lefel 1.

Mae’r cymwysterau yma yn dangos ei ymrwymiad a’i gallu i weithio’n galed mewn amgylchedd gwaith.

Dywedodd Muhammad:

“Ar ôl i mi roi’r gorau i goleg, baswn i ddim lle ydw i nawr heb Itec a’i staff. Roedd Nadine ac Abbie yn gefnogol iawn, wnaeth Jess helpu fi i ffeindio lleoliadau a phrofiad gwaith i fedru gwella fy hunan a gweithio tuag at fy ngyrfa. Wnaeth Vanessa cynnal cyfarfodydd wythnosol i sicrhau bod fy nghwrs AAT yn mynd yn dda.”

Casgliad

Ers cwblhau ei lleoliadau, mae Muhammad wedi datblygu llawer yn bersonol ac wedi sicrhau swydd. Mae o wedi: Gwella ei sgiliau cyfathrebu yn y gweithle, cryfhau ei hyder i siarad â phobl. Hefyd mae o nawr yn credu yn ei hunan a’i alluoedd, mae o wedi datblygu sgiliau amldasgio ac mae ganddo brofiad mewn gwerthu, gwasanaeth cwsmer a chyfrifeg.

Wnaeth Muhammad mwynhau ei brofiad yn fawr ac yn teimlo’n andros o falch o’i dwf personol.

 

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau