Mollie Lawrence @ CPQ Para-gyfreithiwr Lefel 2
Cynnydd, Hyder a Chreu Dyfodol mewn Ymgyfreitha Sifil
Dechrau yn y Gyfraith
Pan gychwynnodd Mollie Lawrence ei phrentisiaeth CPQ Para-gyfreithiwr Lefel 3, roedd hi’n rhan o’r tîm llogi credyd, yn gyflym dechreuodd hi reoli achosion go iawn, dysgu ar y swydd ac astudio nifer o feysydd y gyfraith. Wnaeth y brentisiaeth rhoi strwythur, cefnogaeth, a sylfaen gryf iddi hi yn ogystal a phrofiad gwaith gwerthfawr.
Yn ystod ei chwrs, Gweithiodd Mollie yn agos gyda Brighlink ag Itec, gan gydbwyso astudio gyda gwaith achos a datblygu’r sgiliau trefnu a’r gwytnwch sydd ei angen mewn amgylchedd gyfraith gyflym. Roedd cwblhau ei chymhwyster ym mis Ebrill yn drobwynt iddi hi ac roedd hi barod yn paratoi am ei gol nesaf.
Newid Gyrfa’n Hyderus
Cyn iddi hi dderbyn ei chanlyniadau, wnaeth Mollie penferfyniad dewr: wnaeth hi anfon cais i newid o’r tim llogi credyd i’r tim clefydau, adran oedd yn cynnig mwy o amlygiad cyfreithiol ehangach a hawliadau mwy cymhleth.
Doedd hi ddim yn gwybod os bydd hi’n gwneud y newid fel prentis neu fel para-gyfreithiwr cymwys, ond cafodd hi ffydd yn y sgiliau wnaeth hi adeiladu yn ystod ei phrentisiaeth.
“Roeddwn i eisiau ehangu fy nealltwriaeth o’r gyfraith… mae llogi credid yn arbenigol. Roeddwn i’n meddwl byddai’n gallu pigo fo i fyny’n hawdd.”
Ers ymuno a’r tîm clefydau ar Ebrill y cyntaf, mae Mollie wedi derbyn hawliadau gwerth uwch, gwaith llwybr carlam, a hyd yn oed achosion aml-drywydd. Mae hi bellach yn mynd i’r holl dreialon, rhywbeth nad oedd yn ei brofi yn ei hadran flaenorol, gyda’i rhestr gyntaf eisoes ar y gweill.
Sgiliau sy’n Creu Gwahaniaeth
Mae Mollie yn ddiolchgar am ei phrentisiaeth gan wnaeth o roi’r hyder a’r gallu iddi hi ddechrau maes newydd o’r gyfraith. Wnaeth y cwrs helpu hi i ddatblygu arferion cryf, o reoli terfynau amser i ymdrin â gwybodaeth gymhleth.
“Wnaeth o helpu fi llawer gyda bod yn drefnus a fy ngwytnwch… wnaeth o roi llawer o hyder i fi.”
Mae’r sgiliau yma wedi helpu hi gwneud y gwaith clefydau, lle mae hi nawr yn gweithio’n agos gyda chyfreithwyr ac yn rheoli mwy o achosion.
Effaith ar ei Sefydliad
Roedd Mollie yr unig ddysgwr yn ei charfan i gwblhau prentisiaeth, rhywbeth mae hi’n gweld fel neges bositif i’w chyflogwr ac i’r busnes ehangach.
“Rydyn ni yma i dderbyn cymhwyster… rydyn ni eisiau’r yrfa yma.”
Mae ei llwyddiant yn dangos gwerth prentisiaethau’r gyfraith, oherwydd gall dysgwyr gwneud cynnydd yn gyflym, cyfrannu a dod a phersbectif newydd.
Pam mae Prentisiaethau’r Gyfraith yn Gweithio
Y fantais fwyaf i Mollie oedd y ffaith wnaeth ei phrentisiaeth rhoi profiad ymarferol iddi hi.
“Rydych chi’n cael profiad o achosion eich hunan… o’r dechrau i’r diwedd, sy’n andros o wahanol i ddarllen hyn mewn llyfr.”
Mae hi’n credu bod cyflogwyr yn buddsoddi o ddysgwyr llawn cymhelliant sy’n gwneud eu cymwysterau a gweithio’r achosion am gost llawer mwy is na llwybrau SQE.
Datblygu Hyder & Theimlo’n Falch
Wrth fyfyrio ar ei siwrne, mae Mollie yn gweld newid eglur yn ei hyder a’i hunaniaeth broffesiynol.
“Roeddwn i’n hynod o ddistaw… nawr dwi’r cyferbyniad.”
Mae hi’n falch o gwblhau ei phrentisiaeth, gan brofi roedd hi’n gallu llwyddo.
Edrych i’r Dyfodol
Mae Mollie wedi dewis i barhau a’i siwrne yn y gyfraith ar y drwydded CILEX, mae hi nawr yn symud i’r Lefel Uwch wedi’i ariannu gan ei chyflogwr. Ei gol ydy i gwblhau ei chymwyster ymgyfreitha sifil, gyda chyfraith tuelu neu fusnes.
Mae hi hefyd yn gweld ei hunan yn cymryd swydd arweinyddiaeth yn y dyfodol, gan gefnogi timau a helpu pobl eraill i ddatblygu.
“Un diwrnod hoffwn gwneud swydd mwy arweinol… dwi’n hoffi helpu ein tim.”
Llwybr Eglur
I Mollie, roedd y brentisiaeth yn fwy na chymhwyster; roedd o’r sylfaen i’w holl yrfa yn y gyfraith.
“Mae’n dewis da wrth i chi gychwyn eich gyrfa… yn hytrach na mynd i’r brifysgol.”
Mae ei siwrne yn dangos yn union be gall prentisiaethau cynnig: strwythur, cynnydd a’r hyder i wynebu heriau newydd.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









