Millie Moses @ Partneriaeth o Ofal

O Straffaglu i Serennu

Dechreuodd siwrne Millie gydag Itec pan ddarganfyddi hi’r rhaglen TSC+ pan oedd hi’n edrych am ddechrau newydd. Pan wnaeth Millie adael yr ysgol doedd hi ddim yn siŵr beth i ddisgwyl o’i dyfodol, oherwydd ei hanawsterau darllen ac ysgrifennu a diffyg hyder. Fel rhannodd Millie:

“Trïais gwrs gwallt ag harddwch yn y coleg ond doedd y cwrs ddim yn addas i fi”

Teimlodd hi’n ansicr ac roedd hi’n ddiffyg hyder yn ei galluoedd academaidd. Roedd hi’n gwybod bod hi angen amgylchedd dysgu cefnogol, lle gallai hi deimlo wedi’i chefnogi, cynyddu yn ei amser ei hun, ac adeiladu sgiliau oedd o bwys iddi hi.

Ymunodd hi ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gyda’i chanolfan Itec lleol. Agorodd hyn drws newydd iddi hi dderbyn profiad ymarferol a datblygu sgiliau newydd. Roedd o’n galluogi hi hefyd i weithio tuag at gymhwyster mewn maes doedd hi byth yn meddwl medrai hi wneud oherwydd ei anawsterau darllen ag ysgrifennu. Nododd hyn cychwyn taith oedd am drawsnewid ei dyfodol.

Symudodd Millie o’i lleoliad TSC+ i brentisiaeth Lefel 2 gyda Phartneriaeth o Ofal, wedi’i gefnogi gan Itec.

Cefnogaeth a wnaeth Gwahaniaeth

Tynnodd Millie sylw at rai o’i phryderon ar gychwyn y brentisiaeth:

“O ganlyniad i fy anawsterau darllen ag ysgrifennu, doeddwn i ddim yn meddwl byddai’n gallu derbyn lefel 2.”

Wnaeth Millie darganfod yn gyflym bod y strwythur prentisiaeth yn siwtio hi’n berffaith. Roedd o’n ymarferol, cefnogol, a pharhaodd hi i adeiladu ei hyder a’r sgiliau oedd hi byth yn credu y gallai hi gael. Gwnaeth Itec yn sicr bod ganddi hi’r amgylchedd cywir i lwyddo, gan gyflwyno addasiadau ymarferol oedd yn cefnogi hi yn ei siwrne.

Esboniodd Millie:

“Fe wnes i arsylwadau trwy recordi fy llais yn lle o ysgrifennu a ches i amser ychwanegol.”

Wnaeth ei asesydd Itec treulio amser i ddeall sut gweithiodd hi gorau, gan gynnig anogaeth, cefnogaeth a strategaethau i helpu hi ffocysu. Fel disgrifiodd Millie:

“Mae pethau yn tynnu sylw fi ac rwy’n teimlo wedi gorlethu. Bydden nhw’n annog fi i gymryd anadl; roedd o fel bod nhw’n nabod fi. Cymeron nhw’r amser i ddeall sut gweithiais; roedd o’n anhygoel.”

Yn edrych yn ôl ar y gefnogaeth a derbyniodd, roedd Millie yn glir am pam oedd o’n bwysig:

“Weithiau meddyliais fod i ddim yn gallu gwneud hyn; ces i sicrwydd o fy asesydd Itec. Rwy’n teimlo bod y bwst yna gan fy asesydd wedi helpu fi llawer, rhoddodd o sicrwydd i fi, fy mod yn gallu gwneud hyn a helpodd o yn ystod fy rhaglen. Fel nag oedd gen i lawer o hyder.”

Wrth fyfyrio ar ei siwrne, amlygodd Millie’r effaith a chafodd cefnogaeth Itec:

“Byddwn i ddim wedi gallu gwneud o hebddo… roeddwn i’n mor ffodus.”

Teimlad Newydd o Hyder

Fel gwnaeth Millie gweithio trwy ei phrentisiaeth, wnaeth hi gychwyn gweld pa mor bell oedd hi wedi dod yn bersonol ac yn broffesiynol.

Roedd gweithio gyda Phartneriaeth o Ofal wedi rhoi’r siawns i ddefnyddio ei addysg yn y gweithle. Myfyriodd hi ar sut siapiodd hyn ei hyder:

“Rwyf wedi datblygu hyder yn fy swydd, rwy’n deall beth yw’r disgwyliadau ohonof i a gwybod y derminoleg.”

Roedd y cyfuniad o brofiad gweithle a dysgu strwythuredig wedi helpu hi tyfu hyder nad oedd ganddi hi o blaen, esboniodd:

“Rwy’n teimlo fel byddwn i ddim lle safwn i nawr. I gael cyfle fel hyn, rwy’n meddwl ei bod yn wych.”

Ar gwblhau ei Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhannodd Millie:

“Rwy’n teimlo fel dwi wedi llwyddo yn fy mywyd, roeddwn i’n arfer credu bod hyn yn amhosib. Rwy’n teimlo fel gallai gwneud unrhyw beth nawr.”

Edrych Ymlaen

Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth, bydd Millie yn parhau ei chyflogaeth gyda Phartneriaeth o Ofal ar ôl dod yn ôl o absenoldeb mamolaeth. Gyda sylfaen cryf o fan hi a theimlad newydd o hyder, mae hi yn edrych ymlaen at ei nod nesaf yn barod: cynyddu at ei chymhwyster Lefel 3.

Mae siwrne Millie yn dangos pa mor bwerus gall y llwybr prentisiaeth bod yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy’n wynebu heriau traddodiadol addysg. Gyda’r strwythur cywir, cefnogaeth bersonol, a thîm sy’n credu ynddi hi, roedd Millie yn gallu tyfu i mewn i’w potensial ac adeiladu dyfodol doedd hi byth yn meddwl oedd yn bosib.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau