Mckenzie Lee
Mckenzie Lee: Siwrne o Dwf a Chyfleoedd Newydd
Cefndir
Ymunodd Mckenzie Lee ag Itec yn gyntaf yn 2023 ar raglen Ysgol yr Haf ar y strand Ymgysylltiad. Pan gyrhaeddodd, doedd o ddim yn nabod llawer o bobl a theimlodd yn unig. Ffeindiodd o’n anodd setlo i mewn a wnaeth o straffaglu gyda’i ymddygiad yn y canolfan. Er yr heriau cynnar, daeth o i Itec gyda diddordeb mawr mewn trin gwallt a chredodd bod y sefydliad yn gallu cefnogi o i ddatblygu ei sgiliau.
I helpu o gyda’i gynnydd, trefnodd Itec lleoliadau iddo fo gyda Lazarou a Gents of Brooklyn. Yn ystod ei amser, cwblhaodd ei gymhwyster Lefel 1 Trin Gwallt a Barbwr. Mwynhaodd o fod yn rhan o’r tîm a chwrdd â phobl newydd. Hefyd mwynhaodd o gael profiad ymarferol o dorri gwallt cwsmeriaid gwahanol wrth ddysgu am ystod eang o dechnegau a steiliau. Tyfodd ei hyder wrth dreulio mwy o amser ar ei leoliad. Daeth o’n gyfforddus i weithio gyda phobl eraill a datblygodd sgiliau gwaith tîm. Yn ei amser sbar dechreuodd o weithio tu ôl i far i gryfhau ei sgiliau’n bellach.
Datblygiad
Wrth iddo fo ddatblygu, dechreuodd Mckenzie sylweddoli nad oedd trin gwallt y llwybr oedd o eisiau dilyn. Ar ôl gwblhau ei gymhwyster Lefel 1, teimlodd o’n barod i ddarganfod rhywbeth newydd. Ymunodd o ar leoliad gyda Thîm Parciau a Gerddi Cyngor y Fro, lle mae o nawr yn gweithio tuag at ei gymhwyster Sgiliau Cyflogaeth 401. Mae ei swydd yn cynnwys ymweld ag ardaloedd cyhoeddus, ymchwilio parciau, ardaloedd chwarae, parciau sglefrio, canolfannau cymunedol a rhai ysgolion. Mae’n cefnogi arolygiadau rheolaidd, yn sicrhau bod ardaloedd yn glan ac yn ddiogel. Mae o hefyd yn rhoi gwybod am unrhyw faterion a allai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.
Trawsnewidiaeth
Mae’r profiad yma wedi annog o i feddwl yn wahanol am ei ddyfodol. Nawr mae o wedi ceisio am brentisiaeth garddwriaeth ac yn aros am ateb.
Ers ymuno ag Itec, mae Mckenzie wedi gwneud cynnydd rhagorol yn bersonol ac yn yrfaol. Nawr mae o’n fwy hyderus, wedi ei ffocysu ac yn gallu gweithio mewn tîm. Cafodd o brofiad ar draws meysydd gwahanol ac datblygodd syniad gwell o ba lwybr bydd o’n cymryd yn y dyfodol.
Myfyriad
Disgrifiodd Mckenzie ei siwrne yn eiriau ei hunan:
“Ni fyddwn lle ydw i nawr heb Itec. Pan wnes i adael ysgol, doeddwn i ddim yn siŵr lle i fynd neu beth i wneud, ond cafodd Itec lle i fi. Wnaethon nhw groesawu fi a helpu fi trwy adegau caled ac arwain fi i lwybr yr yrfa dwi’n dilyn nawr. Gallai ddim diolch i bobl fel Abbi, Patrick a Nadine digon. Hebddyn nhw ag Itec, byddai ddim o hyn yn bosibl a byddwn i ddim ar fy lleoliad nawr yn gweithio tuag at gyflogaeth llawn amser.”
Mae stori Mckenzie yn dangos sut gall y gefnogaeth, arweinyddiaeth a chyfleoedd cywir ysbrydoli person ifanc i ddatblygu ei hyder. Yn ogystal â chamu tuag at ddyfodol sydd wir yn siwtio nhw.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









