Louiza Youlzari 

Twf Proffesiynol o Brentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol Lefel 5

I Louiza Youlzari, Rheolwr Rhaglennu South West Grid for Learning, wnaeth y cyfle i wneud Prentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol gydag Itec Sgiliau a Chyflogaeth dod ar adeg bwysig yn ei gyrfa.

Gyda sylfaen cryf o reolaeth pobl a phrosiectau ond heb hyfforddiant ffurfiol i gefnogi ei sgiliau, gwelodd Louiza y Brentisiaeth â chymhorthdal hyn fel llwybr gwerthfawr i’w datblygiad proffesiynol.

Rhesymau cofrestru

Cafodd penderfyniad Louiza i wneud y brentisiaeth ei dylanwadu gan ddymuniad i dyfu yn broffesiynol a chryfhau ei phrofiad personol gyda gwybodaeth ffurfiol. Wrth weithio yn y maes elusennol lle mae cyfleoedd hyfforddi yn gallu bod yn brin, gwelodd hi’r rhaglen yma fel cyfle prin a gwerthfawr i ddysgu mwy a dilysu ei gallu i arwain.

“Roeddwn i eisiau datblygiad proffesiynol o ryw fath… dwi yn rheoli pobl yn atebol ac yn gweithio ar lefel gweithrediadol, ond dwi bydd wedi cael hyfforddiant gwirioneddol. Roedd o’n teimlo fel ffordd dda i ddatblygu.”

Hefyd, cafodd ei synnu mewn ffordd dda pan wnaeth hi ddarganfod nad yw brentisiaethau yn unig i ymadawyr ysgol, maen nhw ar gael mwy a mwy i ddatblygiad gyrfa ar lefelau gwahanol.

Profiad y Rhaglen

​Ffeindiodd Louiza y profiad dysgu gydag Itec yn andros o wobrwyol, gan nodi twf personol a phroffesiynol. Adlewyrchodd llawer o’r cynnwys ei phrofiad blaenorol, gan gynnig teimlad o gadarnhad, wrth gyflwyno cysyniadau newydd oedd yn ychwanegu dyfnder a strwythur at ei gwybodaeth.

“Roeddwn i barod yn gwybod llawer o’r cynnwys – ond nid yn ffurfiol. Felly, mae o wedi bod yn gyfuniad gwych o wybodaeth.”

Mae strwythur y rhaglen, wedi’i gyflwyno mewn model carfan, yn darparu rhyngweithio rhwng cymheiriaid ac yn agored i nifer o ddiwydiannau, o elusennau i sectorau masnachol a chyhoeddus. Roedd yr amrywiaeth yma wedi gwella dysgu gan ddangos sut mae prif egwyddorion rheoli yn berthnasol ar draws gwahanol gyd-destunau sefydliadol.

“Mae o wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r garfan. Roedd cael gweld yr un pynciau mewn gwahanol amgylcheddau yn andros o wobrwyol.”

Gwerth Unigryw Brentisiaethau

I Louiza, mae natur integredig y brentisiaeth o ddysgu yn y swydd gyda chysylltiad gan ei rheolwr wedi profi i fod yn arbennig o effeithiol. Yn wahanol i gyrsiau hyfforddiant masnachol, mae model y brentisiaeth yn meithrin defnydd o sgiliau newydd ar unwaith yn ei rôl bresennol.

“Mae’n fodel wych. Rwyt ti’n dysgu yn ystod oriau gweithio, ti’n defnyddio fo’n syth bin, ac mae dy uwch reolwr yn rhan ohono. Mae’r cydweithrediad yna yn hynod o werthfawr.”

Canmolodd hi hygyrchedd y brentisiaeth fel opsiwn arall fforddiadwy a hyblyg i gymwysterau academaidd, yn enwedig i weithwyr llawn-amser.

“Mae prentisiaethau yn llawer mwy gwerthfawr na mae pobl yn meddwl. Dydyn nhw ddim yn unig i ymadawyr ysgol – maen nhw’n ffordd wych o wella eich gyrfa wrth weithio.”

Effaith ar Yrfa a Rhagolwg

Ers cychwyn y brentisiaeth, mae Louiza yn fwy hyderus yn ei gallu i arwain ac mae hi wedi cychwyn gweithredu fframweithiau fel deallusrwydd emosiynol ac adnoddau chynllunio strategol fel blaenoriaethu MoSCoW yn ei arweinyddiaeth ddyddiol.

“Mae o wedi gwneud gwahaniaeth i’r ffordd dwi’n uwch rheoli fy nhîm. Roeddwn i’n arfer meddwl nad oedd gan ddeallusrwydd emosiynol lle yn y gweithle – a rŵan mae’n rhan hanfodol o sut dwi’n arwain.”

Yn bwysig, mae’r cymhwyster hefyd yn helpu Louiza i gyrraedd ei nod nesaf o’i gyrfa: trawsnewid o rôl arweinyddiaeth adrannol i rôl rheoli weithredol ehangach ar draws y sefydliad.

“Mae’r brentisiaeth yma wedi rhoi’r sylfaen a’r hygrededd i mi gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa.”

Casgliad

Mae siwrne Louiza trwy’r Brentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol Lefel 5 yn dangos sut gall hyfforddiant wedi’i dargedu, gyda chefnogaeth y llywodraeth yn gallu datgloi potensial proffesiynol. Trwy gefnogaeth gan Itec a gweithle oedd eisiau tyfu, cryfhaodd Louiza ei sgiliau presennol a’i gallu i arwain, sy’n gosod hi ar y trywydd gorau i gyfrifoldebau gweithrediadol ehangach.

Mae ei phrofiad yn dangos gwerth parhaus prentisiaethau yn y gweithle presennol: ymarferol, cydweithiol ac chefnogol.

Ailfeddwl beth oeddech chi'n gwybod am brentisiaethau?

Siaradwch â’n tîm heddiw am sut gall ein prentisiaethau help chi ar gam nesaf eich gyrfa.

Ein Achrediadau