Leah Donoghue

O Ansicrwydd i bwrpas: Siwrne Leah

I gychwyn roedd Leah Donoghue yn ansicr pa yrfa i ddilyn. Felly, cychwynnodd ei thaith gyda chanolfan Itec Merthyr gan ddatblygu ei sgiliau personol ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Cymerodd rhan mewn teithiau lles, gweithgareddau, ac adeiladu perthnasoedd positif gyda’i chyfoedion.

Yn ogystal â’i thwf personol, gweithiodd Leah yn agos gyda’i thiwtor Itec i gwblhau tasgau’r cwricwlwm. Gan fod yn benderfynol ac yn bositif, cwblhaodd Leah nifer fawr o gymwysterau. Roedd y rhain yn cynnwys Lefelau Sgiliau Cyflogaeth, Sgiliau Cynhwyso Rhif, a chyflwyniad i Ofal Iechyd a Chymdeithasol.

O ganlyniad i’w datblygiad personol a phroffesiynol dechreuodd Leah cael syniad o ba lwybr gyrfaol roedd hi eisiau dilyn. Gyda chefnogaeth Itec, sicrhaodd hi leoliad gyda Rhaglen Ieuenctid Willows yn Ferthyr. Yna, wnaeth hi ddechrau gweithio tuag at gymhwyster Lefel 1 mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol, Blynyddoedd Iau a Gofal Plant.

Creodd Leah argraff sylweddol a chofiadwy ar ei lleoliad. Adeiladodd perthnasoedd cryf a chadarnhaol gyda phobl ifanc ac arweiniodd gweithgareddau gydag angerdd a gofal. Hefyd, mae hi’n cefnogi cydweithwyr trwy ei chyfrifoldeb ac empathi. Yn gyson mae hi’n dangos arweinyddiaeth a phroffesiynoldeb tu hwnt i’w oedran.

Trwy gydol ei siwrne gyda TSC+, mae Leah wedi tyfu yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae hi’n ddysgwr model sy’n ysbrydoli eraill gyda’i gwytnwch ac ymrwymiad i ddatblygiad ei hunan.

Dywedodd Leah:

“Diolch i Itec, rwyf wedi dysgu bod twf yn digwydd yn araf. Mae’na dwf ym mhob gwers, her, ac eiliad o gefnogaeth. Maent i gyd wedi fy siapio i fersiwn gwell o fy hunan, un diwrnod ar y tro.”

Gyda hyder cryfach a llwybr gyrfa glir o’i blaen, mae Leah nawr wedi cwblhau ei chymhwyster Lefel 1. Sicrhaodd hi gyflogaeth gydag asiantaeth a chafodd ei lleoli gydag ysgol gynradd leol cyfrwng Cymraeg. Nawr mae hi yn y lleoliad perffaith i greu effaith cadarnhaol yn y maes a dewisir.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau