Layla Al Qhwaizi X SB Law

O Uchelgais i Gyfleoedd: Cynnydd Layla ar y Rhaglen Twf Swyddi Cymru+

Uchelgais Layla Cyn Dechrau TSC+

Ymunodd Layla Al Qhwaizi ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gydag uchelgais i lwyddo. O’i dyddiad cychwyn, roedd hi’n benderfynol i wneud y mwyaf o bob cyfle ar gael iddi hi.

Er bod gan Layla uchelgais o fod yn gyfreithiwr, ar y cychwyn roedd hi’n teimlo’n ansicr am y llwybr cywir i gyflawni ei nod. Roedd ganddi hi feddwl agored ac yn awyddus i gael unrhyw fath o brofiad gwaith trwy’r rhaglen. Roedd hyn i adeiladu ei hyder, datblygu ei sgiliau, cyfarfod cyflogwyr a phrofi amgylchedd gwaith. Hefyd, roedd Layla eisiau gwella ei sgiliau Mathemateg a Saesneg i helpu hi cwblhau ei chymwysterau gyda ni.

Siwrne Layla ar y Rhaglen TSC+

Cychwynnodd Layla ei siwrne ar y strand Ymgysylltiad, lle wnaeth hi ffocysu ar ddatblygu ei sgiliau cyflogaeth ac archwilio i’w opsiynau gyrfaol. Cymerodd rhan mewn gweithgareddau grŵp a chyfarfodydd cyson un-i-un gyda staff i drafod cyfleoedd lleoliadau gwahanol roedd ganddi ddiddordeb mewn.

Dros ychydig o fisoedd, dangosodd Layla ei ymrwymiad i ddatblygu ei hyder a’i sgiliau cyfathrebu. Cwblhaodd Layla ei Gwobr Lefel 1 yn y Cymhwyster giliau Cyflogaeth. Disgrifiodd sut roedd hi nawr yn teimlo’n barod i gychwyn lleoliad.

Wedyn cymerodd Layla lleoliad gyda SB Law, gan ei gefnogi mewn rôl derbynfa/gweinyddol. Yn y rôl yma, mae Layla yn cael profiad ymarferol o amgylchedd proffesiynol. Mae hi’n datblygu ei sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer, ac yn tyfu ei hyder i siarad â phobl broffesiynol. Mae’n helpu cael mewnwelediad gwerthfawr i ddisgwyliadau’r gweithle.

Cymwysterau

Yn ogystal â’i lleoliad, mae Layla yn parhau i fynd i’r canolfan ar foreau Dydd Mawrth i weithio tuag at ei chymwysterau Sgiliau Hanfodol. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau ei chymhwyster Cyfathrebu Lefel 3 Sylfaenol. Nawr mae hi wedi trefnu i ddechrau cymhwyser Defnydd Rhif Lefel 3 Sylfaenol. Dangosodd ymrwymiad i gydbwyso ei addysg yn y canolfan a’i chyfrifoldebau yn y lleoliad.

Effaith TSC+

Mae Layla yn enghraifft gwych o sut mae’r rhaglen TSC+ yn cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Dangosir ei siwrne gwytnwch, uchelgais a thwf. Cymerodd hi pob cyfle oedd ar gael ac mae hi’n parhau i weithio tuag at lwyddiant. Chwaraeodd TSC+ rôl allweddol gan ei chefnogi yn ei chynnydd. Bydd ei dyfodol yn un disglair oherwydd ei ymroddiad ac ymrwymiad.

“Rydw i’n andros o falch o sut gymaint rwyf wedi tyfu trwy gydol  y rhaglen a phopeth rwyf wedi derbyn. Mae o wedi bod yn siwrne anhygoel, ac rwy’n gyffrous i gadw ati’n defnyddio’r sgiliau datblygais wrth i fi symud ymlaen yn fy ngyrfa. Roedd cael cefnogaeth gyson wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac roedd o wedi helpu fi ffynnu.”

Layla Al-Qhwaizi

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau