Kimberly Sinuova

Gweithrediad Gwytnwch: Siwrne Kimberly gydag Itec

Personoliaeth Dislair

Ar ddiwedd Tachwedd 2025, ymunodd Kimberly Sinuova (Kim) ag Itec ac yn gyflym daeth hi’n rhan bwysig o’r dosbarth. O’r cychwyn, wnaeth hi ddod a’i chyfeillgarwch, onestrwydd ac awydd i ddysgu. Cafodd ei phersonoliaeth ddoniol a chyfeillgar effaith andros o bositif ar y grŵp. Oherwydd ei agwedd bositif a phenderfynol mae Kim yn codi ysbryd y bobl o’i gwmpas yn naturiol, mae hi’n ffrind ffyddlon a chefnogol.

Tu ôl i’r llen

Mae Kim yn byw gyda cholitis y wlser, cyflwr iechyd cronig. Mae’n gallu achosi poen difrifol, blinder eithafol a symptomau heriol eraill. Er hyn, mae hi wedi bod yn bresennol ym mhob dosbarth ers dechrau’r rhaglen. Pan mae ganddi hi apwyntiad ysbyty mae hi’n cyfathrebu’n glir i ni ac yn gwneud pob ymdrech i gadw i fyny a’i gwaith. Ei gwytnwch a’i ymrwymiad ydy’r pethau sydd yn gwneud hi’n mor arbennig, yn enwedig oherwydd y rhwystrau mae’n wynebu tu ôl i’r llen.

 Gwaith tîm ydy n o gryfderau mwyaf Kim. Weithiau mae ein dosbarth yn gallu bod yn ddistaw, ond mae hi wastad un hapus i wirfoddoli ac arwain y grŵp os oes angen. Yn y dosbarth mae hi’n annog dysgwyr distaw i drafod ac yn helpu nhw i deimlo’n fwy hyderus i rannu ei syniadau. Ei hiwmor ydy un o’r pethau sy’n gwneud pob dosbarth gwenu, mae ganddi hi allu naturiol i wneud pobl teimlo’n gyfforddus.

Llwyddiant anhygoel

Un llwyddiant enfawr i Kim oedd sicrhau lleoliad gyda Hangar Gym ar Heol Penarth. Diwedd mis Chwefror bydd ei dyddiad cychwyn. Bydd y lleoliad yma yn caniatáu hi i gwblhau ei chymhwyster Lefel 1 mewn Hyfforddiant Personol. Bydd hyn yn gam mawr ymlaen at goliau hi i’r dyfodol. Oherwydd ei siwrne iechyd, mae hi’n teimlo’n gryf am helpu pobl eraill gwella ei llesiant. Cymerodd pob cyfle i weithio’n galed a chwblhau popeth oedd yn ofynnol i wneud hyn yn bosib.

Dywedodd un o’n tiwtoriaid:

“Rwyf yn mor falch o gynnydd Kim. Nid yn unig yn ei addysg ond hefyd yn ei agwedd bositif ac anogaeth mae’n dod i’n dosbarth a’r Canolfan Caerdydd i gyd. Ni fydd o’r un peth hebddi hi gan ei bod yn unigolyn mor werthfawr i’n dosbarth. Dymunaf i bob llwyddiant iddi yn ei cham nesaf o’r daith.”

Myfyriodd Kim:

“ Mae Itec wedi helpu fi i wneud cynnydd da trwy wella fy sgiliau ymarferol a fy hyder mewn amgylchedd proffesiynol. Rwyf wedi cwrdd â phobl newydd ac wedi gweithio tuag at fy ngoliau i’r dyfodol.”

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau