Kai Wood @ Gemau Firestorm
O Ansicr i Arbennig: Siwrne Kai o Hyder a Thwf Gydag Itec
Ar ôl gwblhau ei TGaU yn Ysgol Maesteg, ymunodd Kai ag Itec ym Mhen Y Bont yn 2024. Ar yr adeg yna, doedd o ddim yn siŵr pa gyfeiriad oedd o am gymryd a ffeindiodd bod amgylchedd y dosbarth yn llethol, oedd yn effeithio ar ei gymhelliant a’i hyder.
Gyda chefnogaeth ac anogaeth ei diwtor Joseph Mehuish, a’i hyfforddwr Angela Price, cychwynnodd Kai cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu hyder a sesiynau mentora rheolaidd. Wnaeth y sesiynau yma helpu o i siarad am ei goliau a heriau, a wnaethon nhw roi’r sgiliau oedd o angen i reoli ei bryder a ffocysu ar ei dwf personol.
Gydag amser, datblygodd Kai perthnasoedd cryf tu fewn i’r canolfan, gan wella ei sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau. Wnaeth o ddechrau gweld dysgu gydag agwedd bositif, roedd o’n benderfynol o wthio’i hunan yn bellach.
Fel tyfodd ei hyder, penderfynodd Kai i gymryd y cam nesaf, profiad gwaith fel Cynorthwyydd Manwerthu gyda Firestorm Pen y Bont. Wnaeth y cyfle yma galluogi o i ddefnyddio’i sgiliau newydd mewn lleoliad swydd, a derbyn profiad ag annibyniaeth werthfawr.
Mae pawb yn Itec yn hynod o falch o siwrne Kai hyd yn hyn. Mae ei gynnydd yn dangos sut gall cyngor a dyfalbarhad helpu dysgwyr llwyddo yn ei goliau ac adeiladu dyfodol disglair.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









