Johnson @ Canolfan Y Barri

O Benderfynnol i Fendigedig

Pan ymunodd Johnson ar strand Ymgysylltiad y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, cyrhaeddodd gydag uchelgais clir a phenderfyniaeth ddistaw. Roedd o eisiau datblygu ei hyder, sgiliau newydd, a gweithio tuag at ei gol hirdymor o fod yn Swyddog Heddlu’r Ffyrdd. Swydd  y bydd yn caniatáu o i “helpu’r byd bod yn lle gwell a dangos gallai unrhyw un gwneud unrhyw beth pan drïwn”.

Ond ynhyd a’r goliau yma, roedd gan Johnson pryderon. Gydag ASD ag ADHD, roedd o’n arfer cael trafferth derbyn y cefnogaeth yr oedd ei angen arno yn yr ysgol. Roedd hyn yn troi’r syniad o ail ymuno’r ysgol yn un heriol. Disgrifiodd o’r broses o addasu i ddysgu eto fel “anodd ac yn codi nerfau” roedd o’n ansicr os byddai’n gyfforddus ac yn fedrus mewn amgylchedd newydd.

Wnaeth ymuno ag Itec yn Y Barri newid hwnna.

Setlo Mewn a Symud Ymlaen

O’i ddiwrnod cyntaf, darganfuwyd Johnson rhywbeth doedd o ddim yn disgwyl: rhywle oedd yn teimlo fel adref.

“Rwy’n niwroamrywiol ac weithiau gallai straffaglu… ond pan wnes i gamu i mewn i’r ystafell yna teimlais fel on i gartref. Roedd gan bawb gwyn ar eu hwyneb.”

Roedd dechrau ar amserlen o 9 i 12 yn ei galluogi i setlo i mewn yn ei amser ei hunan. Fel tyfodd ei hyder, tyfodd ei oriau hefyd, gan gynyddu i amserlen lleoliad llawn o 9 i 3. Wnaeth y trawsnewidiad araf gyda chefnogaeth helpu o i adeiladu hyder yn ei ddysgu ac yn ei hunan.

Dros chwe mis, wnaeth Johnson cyflawni pedwar cymhwyster: 301, 311, Cyfathrebiadau, a Lefel 1 Defnydd Rhif. Wnaeth ei diwtor tynnu sylw at ba mor sylweddol oedd ei gynnydd, nododd bod o wedi “gweithio’n andros o galed” a dangosodd ymrwymiad cyson i’w ddatblygiad.

Wnaeth ei gyflawniadau arwain o at leoliad gyda Chyngor Sir Morgannwg yn yr Adran AD, lle cymerodd o swydd fel Gweinyddwr Cylch Bywyd. Roedd hyn yn garreg filltir oedd yn dangos ei allu a’i hyder.

Effaith Positif

Gan fyfyrio ar ei brofiad, mae Johnson yn glir am ba mor drawsnewidiol mae’r rhaglen wedi bod:

“Mae’r rhaglen TSC+ wedi helpu fi i ddysgu sgiliau newydd a theimlo’n fwy hyderus… mae o wedi atgoffa fi bod yna pobl gallai helpu.”

Disgrifiodd o sut oedd o’n teimlo’n hapusach, wedi setlo ac yn fwy medrus, newid sydd wedi siapio ei lles a’i nodau am y dyfodol.

Mae ei gyngor am unrhyw un sy’n meddwl am TSC+ yn syml:

“Cer amdani… mae’r rhaglen yn cynnig cefnogaeth werthfawr, yn helpu chi datblygu sgiliau newydd ac yn cynnig cyfleoedd i dyfu eich hyder.”

Edrych i’r dyfodol

Gyda chymwysterau newydd, profiad ymarferol a theimlad newydd o hunan hyder, mae Johnson nawr yn ymchwilio i’w gamau nesaf. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o brofi sector newydd wrth iddo weithio tuag at ei goliau gyrfaol hirdymor.

Mae ei siwrne yn enghraifft bwerus o be gall digwydd pan mae penderfyniaeth yn cwrdd â’r gefnogaeth gywir. Nid yn unig ydy Johnson wedi gwneud cynnydd academaidd a phroffesiynol, ond mae o hefyd wedi datblygu i mewn i berson mwy hyderus a fedrus. Gan brofi – fel oedd o’n gobeithio – gyda’r meddylfryd cywir, mae unrhyw beth yn bosib.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau