Ioana Rusu X Farleigh House 

Prentis Itec yn Rhagori mewn Prentisiaeth Iechyd & Gofal Cymdeithasol Lefel 5, Gan Achosi Newid Positif yng Nghartref Gofal Abertawe

Mae Dirprwy Reolwr Ioana Rusu yn ddysgwr Iechyd & Gofal Cymdeithasol Lefel 5 gydag Itec, ac mae hi newydd gwblhau ei phrentisiaeth yn Nhŷ Gofal Farleigh House yn Abertawe. 

Penderfynodd Ioana i wneud prentisiaeth gan roedd hi eisiau symud i mewn i rôl arweinyddiaeth a wnaeth ffocysu ar wasanaeth a gwelliant. Wnaeth y brentisiaeth gydag Itec hyfforddi hi i arwain y gwaith o ddiogelu, goruchwylio staff a chefnogi gwelliannau i’r gwasanaeth drwy eu profiad ac yn hollbwysig, sut i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y gweithle.  

 “Roedd fy ngwybodaeth ddamcaniaethol wedi cryfhau fy hyder fel arweinydd”, meddai Ioana. “Gallech wneud eich aseiniad yn un ystyrlon, a gallwch weld bod chi’n gwneud yr un peth gyda’ch datblygiad hefyd”. 

Rhoddodd Asesydd Itec Natalie Griffiths adborth parhaol i Ioana a galluogodd hi i wella yn ei dysgu ac ymarfer yn gyson.  

 Dywedodd Natalie, “Mae o wedi bod yn bleser i weld Ioana yn tyfu yn ystod ei thaith dysgu, o baratoi am gymhwyster arwain a rheoli lefel 4, i gwblhau ei chymhwyster Lefel 5. Wynebodd hi rwystrau ar hyd y ffordd, ond roedd hi’n benderfynol. Yn gwneud pob tasg gydag agwedd bositif a phroffesiynol, dangosodd hi wytnwch pan oedd pethau’n teimlo’n anodd. Erbyn y diwedd, roedd hi’n ymdrin â phob rhan o’r cymhwyster gyda hyder a sgiliau. Canlyniad ffantastig a dylai hi fod yn falch o. Da iawn Ioana.” 

Gan feddwl am brofiad Ioana, dywedodd Gaynor, Rheolwr Farleigh House, “Mae ei hyder, agwedd proffesiynol, ac ymrwymiad i ddatblygu ei phractis wedi bod yn glir o’r cychwyn. Yn gyson, mae hi’n dangos agwedd bositif, parodrwydd cryf i ddysgu, a gallu i ddefnyddio ei sgiliau yn effeithiol yn y gweithle. Rydym yn mor falch o’i datblygiad a’i chyfraniad i’r tîm.” 

Gôl Ioana ydy i barhau yn y diwydiant gofal iechyd a chymdeithasol ac ehangu ei dysgu gyda baglor seicoleg i fedru cael mynediad at swyddi sy’n cynnwys ymddygiad, a gwasanaeth iechyd meddwl. Mae ei ymrwymiad i’r diwydiant yn glir a chafodd effaith positif hi ei deimlo gan bawb. 

“Os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da gyda’ch cydweithwyr yn y gweithle, bydd o bendant yn gwella’r awyrgylch i un mwy positif,” dywedodd. “Rydych chi angen bod yn agored i ddysgu systemau newydd. Mae’r diwydiant yn newid trwy’r adeg yn enwedig gydag adnoddau digidol sy’n rhywbeth dwi wedi defnyddio.”  

“Mae arweinyddiaeth yn gallu achosi straen felly mae hunanofal a myfyrio yn hanfodol ond credwch yn eich potensial oherwydd bydd twf yn digwydd cam wrth gam ac mae pob sgil rydym yn dysgu yn adeiladu sylfaen cryf tuag at ein goliau yn y dyfodol.” 

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau