Emily Ross x Rheolwr Gweithrediadol

Ar ôl gweithio ei ffordd yn naturiol i’r top, ffeindiodd Emily Ross, Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Dilysu Mynediad Caergrawnt, ei bod yn methu sylfaen yn sgiliau hanfodol ei gyrfa. Ond sut oedd hi am gwblhau cymhwyster gyda bywyd gwaith prysur o ddydd i ddydd.

Yr ateb: Prentisiaeth ymarferol, hyblyg ac achrededig gydag Itec.

Dywedodd Emily,

“Roedd cynnwys y Brentisiaeth Rheoli ac Arwain yn berthnasol i mi a fy ngyrfa ar yr adeg. Roeddwn i’n uwch rheoli nifer bach o staff, ac roeddwn i’n rheolwr uwch yn y sefydliad, ond doedd gen i ddim cymwysterau perthnasol i gynnwys fy swydd.”

Yn ystod ei hamser fel prentis, cafodd Emily hyrwyddiad i fod yn Brif Swyddog Gweithredol ond parhaodd efo’i dysgu a oedd yn werthfawr iawn iddi hi. Mae prentisiaethau Itec wedi’i dylunio i roi theori yn ogystal ag adnoddau ymarferol i ddysgu yn y swydd, mae hyn yn cynnig hyblygedd rheoli amser.

Rhoddodd y brentisiaeth ffordd fwy strwythuredig i mi gael mynediad at yr arbenigedd ar gael i fi. Darparodd o’r theori ond cafodd ei dylunio o gwmpas roi’r ddealltwriaeth, adnoddau a’r technegau i fi i ddysgu yn y gwaith. Hefyd, roedd o’n hyblyg, felly roeddwn i’n gallu rheoli amser fy hunan a chynllunio tuag at y dyfodol.

 

 

 

Jane John, performance manager, sitting in a chair smiling and holding two tins of food

Mae prentisiaid ar bob lefel yn cael eu cefnogi gan dîm o diwtoriaid personol Itec sydd, fel 100% perchnogion gweithwyr Itec, wedi’u hymrwymo 100% i brofiad dysgwyr.

“Roedd y tiwtor Itec yn wych. Roedd o gyda ni trwy’r holl broses. Fo oedd y person cyntaf i gwrdd â fi a fy nghyflogwr pan oedd gennym ni diddordeb yn y brentisiaeth, ac wedyn fo oedd fy nhiwtor personol ar y cwrs. Roedd o’n ddefnyddiol iawn, ond roedd o hefyd yn ddisgybledig iawn wrth gadw fi ar y trywydd iawn a gwneud yn siŵr roedden ni’n cwrdd yn aml.”

Uchafbwynt profiad Emily o brentisiaeth lefel uwch oedd cael mynediad at arbenigwyr y maes a’r cyfle i gwrdd â dysgwyr eraill, a roddwyd amrywiaeth o safbwyntiau ar geisiadau dysgu.

“Gwelsom lawer o bobl gydag arbenigedd gwahanol i ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth. Roedd gan bob un ohonyn nhw safbwynt gwahanol ar bethau, ond roedd pob uned yn ategu ei gilydd. Roedd o’n neis iawn cwrdd â phrentisiaid arall oedd yn gwneud y rhaglen. Roedd dysgu am sut wnaeth gwahanol feysydd defnyddio’r addysg yn dda.”

​Rŵan mae Emily wedi graddio o’i phrentisiaeth, mae hi’n teimlo’r gwahaniaeth mae ei sgiliau newydd yn gwneud i’w dydd-i-ddydd:

“Dwi’n meddwl trwy’r adeg ‘Baswn i ddim yn wynebu’r rhwystr yma yn yr un ffordd heb wneud y cwrs’. Felly unwaith eto mae o wedi rhoi’r adnoddau a thechnegau i fedru rheoli sefyllfaoedd penodol.

Un o’r prif bethau sydd wedi dod o’r cwrs ydy’r iaith defnyddiwn pan ddeliwn gydag AD, problemau rheolaeth neu unrhyw beth fel yna. Mae’n gwneud synnwyr ein bod yn siarad yr un iaith, rydym yn deall.

Mae’na rhai ymarferion rydyn yn gwneud yn barod, a rŵan dwi’n deall yn well pam roeddwn i’n arfer gwneud nhw a’r canlyniadau positif.

Ailfeddwl beth oeddech chi'n gwybod am brentisiaethau?

Siaradwch â’n tîm heddiw am sut gall ein prentisiaethau help chi ar gam nesaf eich gyrfa.

Ein Achrediadau