Eliza Parker
Eliza Parker: Stori o Natur Benderfynol a Chyrhaeddiad Eithriadol
Mae Eliza Parker wedi dangos ymrwymiad rhagorol trwy gydol ei siwrne i dderbyn ei chymwysterau Lefel 2 Saesneg a Mathemateg. Yn ystod ei lleoliad ysbyty, gweithiodd hi’n agos ar sail un-i-un.. Wnaeth hi greu argraff dda oherwydd ei ffocws a’i phenderfyniad i lwyddo. Roedd pob sesiwn yn dangos ei gallu naturiol i fod yn frwdfrydig, gan ddangos aeddfedrwydd a moeseg gwaith oedd yn ei gosod ar wahân.
Mae Eliza yn byw gyda Syndrom Prader-Willi ac mae hi erioed wedi gadel hyn i gyfyngu ar ei chynnydd neu uchelgais. Mae hi’n mynychu pob sesiwn yn barod i ddysgu ac yn barod i wneud pob tasg. O gwblhau gwaith cwrs, paratoi ar gyfer asesiadau at gyflawni ei chyfrifoldebau dyddiol ar leoliad. Mae hi’n gwneud popeth gydag ymdrech ac ymrwymiad eithriadol.
Un uchafbwynt ei siwrne dysgu oedd ei chyflwyniad diweddar. Roedd hi’n siarad yn hyderus ac yn eglur ac roedd gwerth yr amser a’r gofal a buddsoddwyd i ymarfer ag ymchwil wedi dangos yn glir. Esboniodd Eliza gwybodaeth gymhleth yn glir ac arddangosodd lefel o baratoi uchel. Roedd hyn yn adlewyrchu ei angerdd am ddysgu a hunan gwelliant.
Mae ymdrech gyson, penderfyniad ac agwedd gadarnhaol Eliza yn ei gwneud hi’n ddysgwr rhagorol. Mae’n ymgorffori dyfalbarhad ac mae’n enghraifft gref o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ymrwymiad a chred yn alluoedd ein hunan. Does dim dwywaith amdani bydd hi’n parhau i lwyddo yn ei chymwysterau gyda’r angerdd sydd ganddi.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









