Daryl Coombs x Rheolwr Gweithrediadol
Cryfhau gyda Phrentisiaeth Rheolwr
Gweithrediadol
Yn ei rôl fel Rheolwr Cynhyrchu i ForFarmers DU, mae Daryl Coombs yn arwain gweithrediad melin brysur, lle mae cywirdeb, diogelwch ac effeithlonrwydd yn mynd llaw yn law. Mae ei rôl yn cynnwys cynhyrchu, cynllunio, peiriannu a rheoli’r safle i sicrhau gofynion y cwsmer ac i gadw lefelau uchel o ansawdd a chydymffurfiaeth.
Gydag angerdd i dyfu ei gallu arwain a rheoli, penderfynodd Daryl i wneud y brentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol Lefel 5 gydag Itec.
Roedd gan Daryl arbenigedd technegol cryf yn barod ond roedd o eisiau gwella ei reolaeth strategol a sgiliau rhyngbersonol. Cynigodd y rhaglen y cyfle i gyfuno theori gydag ymarfer i helpu Daryl arwain mwy gyda mwy o hyder ac eglurhad.
“Roeddwn i eisiau adeiladu fy mhrofiad gweithrediadol gan ddatblygu fy ngallu i arwain – yn enwedig o gwmpas newid rheolaeth a gwelliant busnes. Gwnaeth y brentisiaeth fy helpu i alinio beth dwi’n gwneud pob diwrnod gyda’r modelau a fframweithiau rheoli cydnabyddedig.”
Cefnogodd ForFarmers dewis Daryl i astudio am y cymhwyster gan gynnig hyblygrwydd i astudio ynghyd a’i chyfrifoldebau diwrnod i ddiwrnod. Rhoddodd hyn y cyfle i Daryl defnyddio ei dechnegau newydd a ddysgodd yn uniongyrchol yn y felin, gan arwain at welliant mesurol mewn cydweithio tîm ac effeithiolrwydd prosesau.
Yn ystod y rhaglen, datblygodd Daryl dealltwriaeth ymarferol o wahanol ffyrdd o arwain, ysgogi, a gwaith tîm. Ddaru fodiwlau ar strategaeth a gweithrediad helpu o i wynebu prosiectau gyda gweledigaeth a strwythur gwell, tra gwnaeth sgiliau cyfathrebu a hunan hyder gwell gwneud o’n arweinydd gwell ar draws ei dimau.
“Wnaeth y brentisiaeth helpu fi i newid fy ffordd o feddwl o fod yn weithrediadol i fod yn meddwl mwy am arweinyddiaeth strategol. Mae o wedi rhoi’r cymhwysedd a hyder dwi angen i arwain newid a hwyluso uchelgais hirdymor ForFarmers.”
Canolbwyntiodd un prosiect cofiadwy’r brentisiaeth ar gydweithrediad rhwng yr adrannau cynhyrchu, cynllunio a pheiriannu. Gan ddefnyddio fframweithiau fel rholiau tîm Belbin a chamau datblygiad tîm Tuckman, gwnaeth Daryl newidiadau a gwellodd cydlynu ac effeithlonrwydd.
Daeth llwyddiant arall o weithredu Model Newid 8-Cam Kotter i gyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer cynnal a chadw ataliol. Helpodd y proses yma gyda chyfathrebu, derbyniad tîm, ac arweiniodd at lwyddiant mesuradwy o ran oriau gweithio offer.
“Y rhan mwyaf gwobrwyol oedd cael y siawns i ddefnyddio’r hyn a ddysgais mewn prosiectau gwirioneddol. Gwelais y newid uniongyrchol o theori yn y gwaith – a dyna beth sy’n gwneud y cymhwyster yn mor werthfawr.”
Mae Daryl yn cydnabod lot o’i lwyddiant i arweiniad a chefnogaeth ei aseswr Itec, Yihya Sirhan. Darparodd Yihya adborth parhaus, hyblygrwydd, a dull ymarferol o ddysgu, i helpu i gadw Daryl ar y trywydd iawn yn ystod y rhaglen.
“Roedd Yihya yn deall natur fy swydd a ddarparodd o arweiniad oedd yn berthnasol i fy ngweithle. Roedd ei arweiniad, anogaeth, a chyngor ymarferol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gadw fi wedi’i ysgogi ac ar y trywydd iawn, gan sicrhau roeddwn i’n gallu llwyddo i gwblhau’r brentisiaeth wrth barhau i gyflawni canlyniadau yn fy rôl.”
Ers cwblhau’r brentisiaeth, mae Daryl wedi creu gweithdrefnau newydd i wella’r broses o drosglwyddo sifftiau, cyfathrebu, a mesur perfformiad. Mae hyn wedi gwneud y timau gweithio’n well gyda’i gilydd, lleihau camgymeriadau, a gwella cynhyrchedd.
Mae’r profiad hefyd wedi trawsnewidio ei hyder fel arweinydd. Mae o rŵan yn wynebu rhwystrau mewn ffordd strategol, gan ddefnyddio ei sgiliau ymgysylltu, cymhelliant a chyfathrebu i gyflawni canlyniadau.
Gan edrych i’r dyfodol, mae Daryl eisiau parhau i dyfu fel arweinydd strategol, a thyfu i brosiectau gweithrediadol mwy a mentora arweinwyr ifanc ForFarmers.
“Mae’r cymhwyster wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau i mi fedru arwain yn effeithiol. Mae o wedi bod yn fuddsoddiad mewn datblygiad fy hunan – ac mewn llwyddiant y busnes.”
Ailfeddwl beth oeddech chi'n gwybod am brentisiaethau?
Siaradwch â’n tîm heddiw am sut gall ein prentisiaethau help chi ar gam nesaf eich gyrfa.

















