Darryl Murdoch X Itec 

“Peidiwch â barnu llyfr wrth ei glawr” – Cyhoeddwr Proffesiynol yn dechrau Prentisiaeth  

Mae prentisiaethau yn cael eu camddeall fel rhywbeth sydd dim ond i bobl ifanc sy’n dechrau yn y gweithle am y tro cyntaf, ond dim ond un rhan o botensial brentisiaethau ydy hwnna. Y gwirionedd yw bod brentisiaethau yn gallu bod yn adnodd ardderchog i bobl ar unrhyw gam o’i gyrfa.  

Mae Darryl Murdoch yn Rheolwr Masnachol ar gyfer eMap Publishing ac yn gwneud y cwrs Brentisiaeth Arwain Tîm Lefel 3 gydag Itec ar hyn o bryd. Isod, mae’n rhannu ei daith a’i brofiad o lywio camau dysgu strwythuredig fel gweithiwr proffesiynol yn ei faes. 

 

 

 

This is an image of a learner (Darryl Murdoch)
Cwestiynau Cychwynnol  

Mantais fawr i brentisiaethau ydy’r ffaith gallech “ennill arian wrth i chi dysgu”. I oedolion gyda chyfrifoldebau ariannol neu deuluoedd i gefnogi, mae hyn yn andros o werthfawr. Gallech gael profiad ymarferol heb yr angen i weithio’n llawn amser neu fod yn ddyledus. Yn lle o eistedd mewn dosbarth, rydych yn gweithio mewn amgylchedd byd go iawn, yn ennill cyflog, ac yn datblygu sgiliau ymarferol. Hyn oedd proses meddwl Darryl:

Yn 41, meddyliais wnes i adael y dyddiau o ddysgu strwythuredig yn y gorffennol. Mae gen i deulu ifanc felly i gychwyn meddyliais ‘Sut bydd hyn yn effeithio fy swydd o ddydd-i-ddydd’, ‘Oedd wir gen i amser i hyn?’. Ac wedyn siaradais gyda phobl eraill a wnaeth y brentisiaeth ac oedd adborth nhw yn dda iawn. “

“Dwi’n falch wnes i ofyn y cwestiynau yna iddyn nhw oherwydd daeth popeth a dwedant a mwy yn wir. Baswn i ddim yn gallu bod yn fwy anghywir. Dwi ddim yn meddwl hwnna di’r brif neges. Mwynheais yn fawr. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Peidiwch â barnu llyfr wrth ei glawr.”

“Roeddwn i’n poeni i gychwyn oherwydd credais roeddwn i’n rhy hen i gymryd rhan mewn dysgu strwythuredig. Rŵan dwi wedi gwneud o, dwi wedi sylweddoli bod o’n gallu chwarae rhan bwysig iawn yn dy ddatblygiad gyrfa, oherwydd mae’n galluogi chi i weld effaith hirdymor yr hyfforddiant. Dydy o ddim yn rhywbeth lle rydych yn mynd i swyddfa wahanol am ddwy awr, yn eistedd ac yn gwrando ar rywun yn drafod am strategaethau a stwff ac yn anghofio fo’r diwrnod nesaf. Mae hyn yn fwy o feddwl hirdymor, a chredaf unwaith bydd gan bobl arfer i hwnna, byddant yn cofio pa mor hwyl oedd o i ddysgu rhywbeth newydd.”

Cyfleoedd Rhwydweithio  

Mae bod yn rhan o brentisiaeth yn rhoi’r cyfle i chi adeiladu rhwydwaith proffesiynol. Byddwch yn cysylltu â mentoriaid, cydweithwyr, a phobl broffesiynol yn y diwydiant yn ogystal â phrentisiaid eraill mewn dosbarth dysgwyr ar lein o wahanol diwydiannau. Yn y sesiynau yma mae cynrychiolwyr yn clywed gan arbenigwyr, yn trafod theori ac yn rhannu profiadau. Mae llawer o ein dysgwyr yn deud hyn ydy un o bethau gorau’r brentisiaeth. Dyma pam: 

Mae’na gwpl o bobl ar y cwrs dwi’n gwneud sydd mewn diwydiannau andros o wahanol i’r byd cyhoeddi. Roedd y dysgu am achosion agos a phrofiadau gwahanol gan fusnesau gwahanol y peth mwyaf defnyddiol i fi, oherwydd fel arfer ar hyfforddiant gwerthu tu fewn sefydliad eich hun, mae o fel ystafell adleisio. Rydych i gyd yn trafod yr un rhwystrau a’r un atebion, felly roedd cael clywed am rwystrau mae elusen yn wynebu yn wahanol iawn. Mae’n gwneud i ti meddwl a bod yn fwy creadigol gydag eich atebion a gofyn ‘Oes ‘na rhywbeth maen nhw’n gwneud y gallem integreiddio i mewn i be rydyn ni’n gwneud.’ 

Roedd y mewnbwn gan nifer o wahanol bobl o ddiwydiannau gwahanol yn werthfawr iawn, a dwi ddim yn meddwl gallwch chi gael hwnna gyda hyfforddiant mewnol, oherwydd rydych i gyd yn gweithio i’r un sefydliad. Felly dwi’n meddwl hwnna oedd y peth mwyaf defnyddiol i fi. Ffeindiais fy hunan yn trafod am enghreifftiau o ddiwydiannau gwahanol lawer mwy na dwi wedi trafod am enghreifftiau o ddiwydiannau tebyg i ni. Mae’n ehangu eich gorwelion. Mae’n agor eich llygaid i fyd llawer mwyach na’r byd rydych yn gweithio mewn pob dydd. Yn fy achos i, cyhoeddi. 

Cefnogaeth a Mentora

Mae gan brentisiaethau Itec amgylchedd dysgu strwythuredig gyda mentora. Yn hytrach na wynebu’r rôl ar ben eich hunan, byddwch yn cael arweiniad gan broffesiynol profedig bydd yn cynnig adborth ac yn cefnogi’ch datblygiad. Mae hyfforddiant o’r math yma yn amhrisiadwy ar unrhyw adeg o’ch gyrfa, os ydych yn newydd i’r maes neu’n broffesiynol profedig sydd eisiau gwella eu sgiliau. Rhannodd Darryl am ei gefnogaeth a’i fentora:

Mae Beverly wedi bod yn wych. Hi ‘di mentor fi. Gallai e-bostio hi i ofyn cwestiwn cyflym ac mae hi’n ateb yn syth bin. Mae’r cyfathrebiad wedi bod yn arbennig o dda. Roedd o’r un fath pan gofrestrais ar y cwrs. Doedden nhw ddim yn gwthio gormod, dim ond yn gofyn a fedran nhw helpu gydag unrhyw beth.

Wnes i fethu cwpl o sesiynau ond roedden nhw’n deall yn iawn a rhoddon nhw sicrwydd eglur na fyddai’n methu unrhyw beth. Roeddwn I’n gallu gwylio recordiadau’r sesiynau a gollwyd, ac wedyn gofynnais i gael fy adio at sesiwn dal i fyny ar y modiwl rheolwr prosiect.

Dwi’n meddwl bod hwnna’n dangos bod nhw’n brofedig iawn, ac maent yn deall rydych yn gwneud hyn ar yr un adeg a’ch swydd normal, nid fel cymhwyster ar ben ei hunan, lle mai dyma eich prif ffocws neu eich unig ffocws.

Mae gan Itec cyfathrebiad da, terfynau amser da a digon o amser i wneud y gwaith. Mae’r adborth i gyd yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mae cael yr adborth wrth i ti dysgu, fel eich bod ar y trywydd iawn, neu os mae ’na rywbeth gallech ffocysu mwy ar, wedi bod yn ardderchog. Rydych yn wirioneddol yn cael eich hyfforddi trwyddo ac mae’r gefnogaeth ychwanegol yna os oes angen.

​Canlyniadau Dysgu a Thwf Personol

I gloi, gallai prentisiaethau helpu i godi hyder. Mae trio rhywbeth newydd a llwyddo yn adeiladu gwytnwch a theimlad o lwyddiant. Maent yn atgoffa ni bod dysgu byth yn stopio. Dyma ganlyniadau dysgu Darryl yn eiriau ei hunan:

Ar y rhaglen Arwain Tîm Lefel 3 dwi’n sicr wedi datblygu dealltwriaeth well o pam rydym yn gwneud y pethau hyn a beth ydy’r amcanion, yn gyntaf fel fi fel rheolwr, ond hefyd fel busnes eu hunan, a pham rydym yn gwneud y pethau hyn.

Dwi wedi cael fy ngalluogi a’m grymuso i ddod â rhai o ganfyddiadau’r astudiaeth gyda mi i’w rhannu gyda fy nhîm uniongyrchol, ond hefyd gyda phobl eraill yn y sefydliad neu’r busnes sydd heb fod ar y cwrs a heb wneud unrhyw beth fel hyn. Mae’n gwneud o’n llawer mwy gwerthfawr, oherwydd nid yn unig ydych yn derbyn cymhwyster personol, ond rhywbeth gallech adio i’ch CV ar gyfer swyddi yn y dyfodol, ac mae o hefyd yn gwella eich presenoldeb o fewn y busnes.

Mae o wedi atgyfnerthu fy angerdd dros ddysgu. A minnau heb ei wneud ers cryn amser, roeddwn i’n meddwl ei fod yn dipyn o dasg, ond mewn gwirionedd, rydw i wedi sylweddoli faint mae wedi bod o fudd i mi. Baswn i’n hoffi efallai gwneud prentisiaeth lefel uwch, hyfforddiant arall gyda strwythur tebyg. Rydw i bendant yn meddwl byddai’n gwneud o eto.

Ein Achrediadau

Ailfeddwl beth oeddech chi'n gwybod am brentisiaethau?

Siaradwch â’n tîm heddiw am sut gall ein prentisiaethau help chi ar gam nesaf eich gyrfa.