Crystal Hughes

Dilyn Llwybr ei Hunan: Siwrne Crystal

Ar ôl cwblhau ei TGAU gyda chanlyniadau cryd A*-C, ymunodd Crystal Hughes ar y strand Cynnydd yn Itec Sgiliau Pen-y-bont ar Ogwr. Pan ddechreuodd roedd hi newydd gwblhau profiad mewn salon lleol, ond daeth o’n eglur nad oedd hyn iddi hi. Gyda chymorth tîm Itec, rhannodd Crystal y breuddwyd a anwybyddodd o blaen.

Trwy annog hi’n ofalus a thrafodaethau onest gyda’r tîm, yn y diwedd teimlodd Crystal yn saff i leisio ei breuddwyd o fod yn Weithiwr Cymdeithasol a chreu gwahaniaeth gwerthfawr i fywydau pobl ifanc. Yr eiliad ail-gysylltodd â’i hangerdd, newidiodd popeth. Gan weithio gyda staff Itec, ymddangosodd llwybr clir i helpu hi i ail-ddarganfod ei hyder a chymryd camau tuag at y dyfodol roedd hi’n haeddu.

Wnaeth staff Itec arwain Crystal trwy nifer o gymwysterau i baratoi hi ar gyfer y dyfodol roedd hi eisiau. Roedd hyn yn cynnwys Gwobr Ragarweiniol City & Urddau Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd (QCF), cymhwyster Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 1, a Thystysgrif Lefel 2 C&G mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion. Rhoddodd ei chynnydd, ymrwymiad ac ymgysylltiad cyson i’r cwrs y sylfaen roedd angen arni i gymryd y cam nesaf.

Gan ddod o hyd i lwybr ei hunan gyda chefnogaeth staff Itec, cafodd Crystal profiad ymarferol mewn ysgol gynradd. Wnaeth hyn rhoi’r gallu iddi hi adeiladu’r sgiliau, meithrin ei chryfderau, a chredu yn ei dyfodol.

Heddiw, mae hi’n llwyddo mewn ysgol gynradd leol ac yn gweithio tuag at gymhwyster Cynorthwyydd Dysgu. Mae hi’n datblygu eu hunan hyder, pwrpas a chred pob ddiwrnod.

Dywedodd Asesydd Itec Hannah Walker:

“Nid yw Crystal bellach yn dilyn disgwyliadau rhywun arall; mae hi’n falch o gerdded llwybr ei hunan”.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau