Coby Graham X Royvon Dogs Home X Boabach CIC
Dod o hyd i’w lwybr a thyfu mewn hyder tuag at brentisiaeth
Ymunodd Coby Graham â’n canolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2022 yn 17 oed. Mae ganddo anawsterau dysgu ac fe ymunodd a’n rhaglen i ennill sgiliau bywyd, cwrdd â phobl newydd, meithrin hyder a gwella ei gyfathrebu. Trwy’r cwricwlwm, gweithdai, siaradwyr gwadd ac amryw o deithiau lles, ffurfiodd Coby berthnasoedd cryf â staff a chyfoedion.
Cyflawnodd Coby Lefel 2 a 3 mewn Cymhwysiad Sgiliau Hanfodol. Derbyniodd wobr hefyd mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a Defnyddwyr TG Lefel 1. Cwblhaodd Coby y gwobrau hyn ar gam ei hun a chafodd gefnogaeth gan amryw o aelodau staff drwy gydol ei daith.
Darparodd Angela Price, Hyfforddwr Dysgwyr Coby, ofal bugeiliol, arweiniad, a chefnogaeth i feithrin hyder iddo mewn amgylchedd meithringar.
Cynhaliodd Joseph Melhuish, Tiwtor Ieuenctid Coby, weithgareddau dosbarth gwahaniaethol, pynciau craidd, a gweithdai meithrin hyder i weddu i anghenion Coby o fewn amgylchedd dysgu cynhwysol. Ymgorfforodd ddiddordebau a gweithgareddau chwaraeon Coby i annog rhyngweithio ac ymgysylltiad cyfoedion, gan helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Fe wnaeth Hannah Walker a Gareth Williams, Swyddogion Cyflogadwyedd Coby. ei harwain i leoliad addas a ystyriodd ei anghenion unigol. Fe wnaethon nhw gyfathrebu’n clir a gosod disgwyliadau, gan gynnig cefnogaeth ac ymweliadau rheolaidd i’w helpu i ymgyfarwyddo’n haws i’r amgylchedd gwaith gyda chefnogaeth foesol barhaus.
Unwaith i Coby deimlo’n barod, dechreuodd roi cynnig ar amrywiaeth o ddiwydiannau fel profiad gwaith i helpu i feithrin ei hyder, ei sgiliau cyfathrebu a’i CV.
Ymunodd â Chartref Cŵn Royvon, Parc Gwledig Margam ynghyd â Boabach CIC. Cafodd Coby gipolwg ar yr amgylchedd gwaith, wrth hefyd gyfrannu at ei gymuned a chwrdd â ffrindiau newydd.
O’r brofiad hwn, teimlai Coby yn hyderus i wneud cais am ei swydd gyntaf ac fe’i cafodd! Llongyfarchon ni Coby gydag anrheg yn ei weithle ‘Solo Laundry’ yn Ystâd Ddiwydiannol Cynffig, Margam. Roedd Coby yn gyffrous i rannu gyda’r tîm yr holl ffrindiau newydd yr oedd wedi’u gwneud a’r bobl yr oedd bellach yn gweithio gyda nhw o’i bentref.
Dywedodd y Rheolwr Ardal, Ruth Sainsbury: “Mae wedi bod yn bleser arsylwi Coby ar ei daith Itec, mae ei hyder a’i sgiliau cyfathrebu wedi tyfu ac mae ei hunan-gred wedi gwella. Mae wedi dod yn fwy annibynnol trwy bob lleoliad ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ar hyd y ffordd. Rydym yn falch iawn o’r oedolyn ifanc y mae wedi dod yn ganlyniad i’r gefnogaeth y mae fy staff wedi’i darparu”.
Rydym yn llawn balchder dros Coby. Mae wedi goresgyn rhwystrau gyda chefnogaeth ac arweiniad ei Diwtoriaid Ieuenctid, Hyfforddwr Dysgwyr, Aseswyr, a Swyddogion Cyflogadwyedd. Er bod Coby yn cael ei golli o Itec ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae bellach yn cerdded ei lwybr newydd yn hyderus yn y byd gwaith.

Barod i gweithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.