Byron Kent X Gwasanaethau Anifeiliaid Anwes Walkabout

O Ansicrwydd i Gyfleoedd: Stori Byron

Cefndir

Pan ymunodd Byron Kent ar strand Ymgysylltiad Itec, roedd o’n hogyn distaw, swil oedd angen llawer o sicrwydd. Ni chafodd y profiad gorau yn ei ysgol uwchradd ac roedd o’n ansicr am ei ddyfodol. Ffeindiodd o’n anodd trafod am y pethau roedd o’n poeni am a’r rhwystrau oedd yn wynebu o. Ond, ar ôl sbel, ffeindiodd o bobl gyda phethau mewn cyffredin a wnaeth o ffrindiau yn y canolfan. Wnaeth hyn helpu o i fod ei hunan heb ymddiheuro. Aeth ymlaen i gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau grŵp. Datblygodd ei hyder yn y canolfan a sylweddolodd roedd o’n iawn i ofyn am gefnogaeth.

Lleoliad llwyddiannus

Ar ôl sbel, aeth Byron allan i’w lleoliad cyntaf yn cerdded cŵn gyda ‘Gwasanaethau Anifeiliaid Anwes Walkabout’. Cafodd ei bigo i fyny gan y perchennog a dysgodd sut i reoli’r cŵn wrth eu cerdded a dysgu nhw sgiliau ymddygiad sylfaenol.

Roedd Byron yn rhagori ac yn caru’r lleoliad hwn yn fawr. Rhoddodd hyn yr hyder iddo i geisio am brentisiaeth gyda Chartref cŵn Caerdydd. Aeth o i’r cyfweliad gyda hyder a phwrpas, er ni chafodd ei ddewis, wnaeth o adael yn teimlo’n falch wnaeth o drio ei orau. Dywedon nhw y byddent yn hapus i dderbyn cais arall ganddo ar ôl gael mwy o brofiad.

Bydd Byron yn mynd ar leoliad arall gyda ‘Walkabout’ i gael mwy o brofiad gydag anifeiliaid. Bydd hyn yn parhau i wella ei gyflogadwyedd.

Cwestiynau i Byron

A fyddech chi’n argymell Itec i rywun arall?

“Byddaf, byddaf yn argymell Itec i bobl ifanc eraill gan mae’n rhoi siawns iddynt i adeiladu dyfodol ei hunan. Gallent ffeindio’r hyn maent yn mwynhau a dysgu a thyfu fel person. Maen nhw wedi helpu fi i ddatblygu sgiliau penodol fel fy hyder. Rwyf hefyd wedi gwella fy annibyniaeth, gwytnwch a gallai ymdopi o dan bwysau nawr.”

Sut aeth dy brofiad yma yn Itec?

“Aeth fy mhrofiad gydag Itec yn dda. Cyn i mi gychwyn wnes i stopio mynd i’r ysgol gan doeddwn i ddim yn licio fo llawer. Doedd gen i ddim clem am fy nyfodol neu am be i wneud. Doeddwn i ddim wedi fy ysbrydoli llawer. Rwyf yn teimlo rwyf wedi tyfu llawer oherwydd ces i bach o ddechrau diddorol. Prin roeddwn i yn dod mewn, ces i ddim perthynas gyda fy nghyd-ddisgyblion. Doeddwn i ddim mor hyderus ag ydw i heddiw a teimlais nad oeddwn yn gallu siarad am be oedd yn digwydd. Ond, wnaeth fy nhiwtoriaid helpu llawer, roedden nhw yna i fi pan teimlais yn unig. Wnaethon nhw cael help i fi a dangos i fi bod o’n iawn i siarad am sut on i’n teimlo. Nawr gallai llwyddo a ffynnu yn yr amgylchedd yma.”

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau