Boris Radanovic – Astudiaeth Agos Prentisiaeth  Rheolwr Gweithrediadol Lefel 5

Twf Proffesiynol o Brentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol Lefel 5

Derbyniodd Boris Radanovic Rhagoriaeth yn y Brentisiaeth Rheolwr Gweithrediadol gydag Itec, canlyniad sy’n adlewyrchu nid yn unig ei lwyddiant academaidd ond hefyd effaith sefydliadol sylweddol ei ddysgu. Roedd y brentisiaeth yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol gan Boris a’r SWGfL, ac ymddangosodd y buddsoddiad yna yn y newid mesurol o arweinyddiaeth, effeithiolrwydd gweithredol a chyflawniad strategol. 

Pan ddechreuodd Boris y Brentisiaeth, roedd o’n gweithio fel Pennaeth Ymgysylltiad a Phartneriaid gyda SWGfL. Yn ystod y rhaglen, wnaeth ei rôl newid i fod yn Bennaeth Datblygiad Rhyngwladol, newid gwnaeth o groesawu oherwydd yr hyder, eglurdeb, a dealltwriaeth weithredol datblygodd o gyda’r brentisiaeth. 

Gan adlewyrchu ar ei siwrne, esboniodd Boris: 

“Rydw i’n Bennaeth Datblygiad Rhyngwladol rŵan. Roeddwn i’n Bennaeth Ymgysylltiad a Phartneriaid pan gychwynnais y rhaglen. Helpodd y brentisiaeth gyda’r trawsnewidiad. Yn fy rôl rydw i’n ehangu gwasanaethau ac enw da SWGfL, dwi’n arwain y strategaeth datblygiad rhyngwladol, ac yn adeiladu partneriaethau gyda llywodraethau, cyrff anllywodraethol a sefydliadau byd-eang.” 

Ar ôl cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Tîm, gwelodd Boris y Brentisiaeth Rheolwr Gweithredol Lefel 5 fel dilyniant naturiol, yn enwedig yng nghyd-destun sefydliad nid-er-elw. 

“Gorffennais y Lefel 3 mewn Rheoli Tîm felly hyn oedd y cam nesaf mwyaf rhesymegol. Roeddwn i’n gwybod basau dysgu am reolaeth weithredol mewn sefydliad nid-er-elw fel y disgrifir yn y prosbectws yn rhywbeth byddai’n defnyddio yn y dyfodol.” 

I Boris un o elfennau mwyaf effeithiol y rhaglen oedd bod y dysgu wedi’i seilio ar sefyllfaoedd gweithle gwirioneddol yn lle o theori haniaethol. Roedd o’n gwerthfawrogi y cydbwysedd rhwng trylwyredd academaidd a defnydd ymarferol ar unwaith, yn ogystal ag amrywiaeth y garfan o ddysgwyr. 

“Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r cydbwysedd rhwng yr ochrau ymarferol ac academaidd. Roedd y cyfuniad o wneud gwaith grwp yn anhygoel. Roedd yna amrywiaeth o bobl o beirianwyr i athrawon PHD – roedd amrywiaeth y grwp yn wych. Cafodd o ei adeiladu o gwmpas sefyllfaoedd yn y gweithle, wnes i garu hwnna llawer. Llwyddais i roi rhai o’r gwersi a ddysgwyd ar waith yn syth yn fy swydd.” 

Profiad o’r Rhaglen 

Mae Boris yn amlygu bod y rhaglen wedi mynd tu hwnt i dempledi a chydymffurfiaeth, gan ganolbwyntio yn hytrach ar farnu, adlewyrchu, a systemau meddwl. 

“Roedd o’n pwysleisio barnu teg (nid templedi a thicio blychau) ac ymarfer myfyriol, sydd gennyf hyd heddiw. Yn gyffredinol, wnaeth o gryfhau fy ngallu i droi strategaeth yn ddarpariaeth weithredol. Doeddwn i ddim yn gwybod sut gymaint roeddwn i’n hoffi rheoli gweithrediadol cyn i mi wneud y cwrs.”

Roedd cyflymder yr effaith yn arbennig o werthfawr. 

“Dw i’n meddwl y rhan mwyaf defnyddiol oedd gweld y pethau dysgais ar y Dydd Llun yn cael ei weithredu yn ystod yr wythnos ac yn gweld y canlyniadau bron ar unwaith yr wythnos nesaf. Roedd hwnna’n hynod o werthfawr i fi. Mae gen i dîm arbennig, ac roedden nhw’n awyddus i weithredu rhai o’r pethau yna.” 

 Chwaraeodd mentora rhan hollbwysig i lwyddiant Boris, gyda’i mentor Itec Yihya Sirhan yn darparu arweiniad arbenigol, cyson trwy gydol y rhaglen. 

Dwedodd Yihya: 

“Mae mentora Boris wedi bod yn brofiad gwobrwyol. Roedd o’n dangos yn gyson ei ymrwymiad i’w ddatblygiad, ei fod yn barod i ddysgu, a’r gallu i fyfyrio ar adborth i wella ei ymarfer. Roedd Boris yn wynebu heriau gyda meddylfryd positif a dangosodd hyder cynyddol wrth ddefnyddio sgiliau newydd, a gwneud cynnydd cyson ac ystyrlon tuag at ei goliau.” 

Disgrifiodd Boris y gydberthynas mentora fel bod yn sylfaenol i’w lwyddiant a’i lesiant yn ystod y rhaglen.  

“Mae’n rhaid i mi ganmol fy mentor Yihya. Roedd o’n un o’r rhannau gorau o’r cwrs. Roedd cael arbenigwr sgiliau meddal gyda cymaint o ddealltwriaeth wybodus a wnaeth arwain fi a fy nghydweithiwr Louiza mewn ffordd wych yn gwneud yr holl raglen a’r holl siwrne yn ddealladwy a ddi-dor. Dwi ddim yn gallu canmol o ddigon. Rhoddodd i mi’r gallu i ganolbwyntio ar yr hyn a oedd yn bwysig.” 

Adiodd o: 

“Roeddet ti’n gallu galw o ar unrhyw adeg. Cawson ni archwiliadau parhaus oherwydd ar y cychwyn dywedais fod gen i lawer yn digwydd. Wnaeth o helpu fi aros ar y trywydd iawn. Os mae yna un peth gallai pwysleisio i bobl eraill, mae o’r ffaith o gael y person yna nesaf i ti, ysgwydd i ysgwydd, yn helpu ti trwyddo. Dyna sut ti’n cael rhagoriaethau.” 

Canmolodd Boris ansawdd y ddarpariaeth, gan nodi pwysigrwydd dealltwriaeth y cyflwynwyr o brofiad a statws y dysgwyr. 

“Roedd y cyflwynwyr yn ardderchog. Mae’n andros o bwysig bod nhw’n deall bod y bobl maen nhw’n siarad ag yn lefel uchel, wedi bod yn gweithio am flynyddoedd neu ddegawdau, ac eisoes yn deall llawer o’r cydsyniadau. Yr un rydyn ni angen ydy i ddysgu sut i weithredu nhw. Mae llawer ohonom ni barod yn gyflwynwyr ac addysgwyr ein hunan, ond ar wahanol bynciau.”  

Cafodd y brentisiaeth effaith hir ag eglur ar agwedd arweinyddiaeth Boris ar y sefydliad ehangach. 

Gwerth Unigryw Prentisiaethau 

“Wnaeth o helpu fi datblygu fy nealltwriaeth o beth ydy fy swydd. Gwahanu bodau dynol a systemau, strategaeth a gweithredu. Rhoddodd y wybodaeth a’r cymorth i mi newid pethau yn y busnes. Yn bersonol, wnaeth o helpu fi gyda deallusrwydd emosiynol.” 

Pan ofynnwyd ar sut mae ei ddatblygiad wedi elw ei dîm a’r sefydliad ehangach, roedd Boris yn eglur am y canlyniadau. 

“Ffocws. Rhyddhad straen a beichiau diangen. I mi yn bersonol, dysgais mwy am hunan rheolaeth a phwysau. Y gwahaniaeth rhwng gweithredu a galluogi. Gwneud penderfyniadau – pwy sy’n dewis beth, pryd a sut, a’r rheswm tu ôl i hwnna. Barnu ar sail tystiolaeth. Cyllidebu ac arian.”

Esboniodd bod y brentisiaeth wedi ail siapio sut mae’n gweld rheolaeth sefydliadol. 

“Mae’n rhaid i unrhyw reolwr busnes sy’n fwy na phump neu deg o bobl deall sut mae’r busnes yn gweithio fel endid ar lefel gweithredol. Nid ydy o am bobl ond am bopeth i wneud efo effeithiolrwydd gweithredol, aliniad, a gwneud yn siŵr bod pob rhan o’r busnes yn symud tuag at yr un gol.” 

Effaith ar Yrfa a Rhagolwg  

Mae Boris hefyd wedi gweld gwelliant mesurol mewn cynhyrchiant ac ymgysylltu.  

“Wrth gwrs, yn fyr, ie. Roedd gweithredu egwyddorion cynhyrchiant yn dangos i’m tîm yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn eu gwaith a ble maen nhw’n cael yr effaith uchaf. Roedden nhw’n iau pryd hynny, ac erbyn hyn maen nhw’n rhedeg adrannau eu hunan.” 

Mae’n nodi sawl ffactor a gyfrannodd at ei lwyddiant, yn enwedig y gallu i gymhwyso dysgu ar unwaith, cefnogaeth gref gan fentoriaid, gwaith grŵp cydweithredol, a’r defnodd o AI i atgyfnerthu dealltwriaeth siaradwr Saesneg nad yw’n frodorol. 

“Ar ôl i mi ddysgu sut i weithredu o’r cwrs byddwn yn mynd i gael sgwrs anffurfiol gyda’r AI i roi mi achos arall gan ofyn ‘Lle byddai’n gweithredu hyn?’, ‘Sut gallaf weld arwyddion o’r sefyllfa yna?’. Mae o wedi helpu fi i ddychmygu sefyllfaoedd yn y gweithle a wnaeth dod yn wir nes ymlaen. Pwy arall gallai gofyn am bum enghraifft o sefyllfaoedd sydd angen ddeallusrwydd emosiynol?”. 

Mae Boris yn eiriolwr cryd dros y rhaglen o fewn y sector elusennol. 

“Oherwydd mae’n cael ei ariannu gan y llywodraeth byddai pob rheolwr canol a phob elusen yn elw o’r hyfforddiant, yn enwedig os ydych chi eisiau symud ymlaen i lefel uwch-reolaeth. Fel gweithiwr elusennol, rydych mewn rôl amlochrog. Does dim elusen sy’n gweithredu fel busnes ond does dim elusen sy’n gallu gweithredu heb y rhan busnes o’r elusen. Baswn i’n deud i bob gweithiwr lefel canol tu fewn i elusen sydd eisiau tyfu ac eisiau deall, gweithredu, creu system dda, sydd eisiau gwneud eu helusen yn endid cadarn gyda’i chyllid ariannol a phopeth arall, dylent yn bendant cymryd rhan.” 

Casgliad 

I gloi mae’n ystyried ei drawsnewidiad personol a phroffesiynol oherwydd y brentisiaeth. 

“Mae’r wybodaeth mae Itec wedi rhoi i ni wedi egluro cysyniadau dwi’n defnyddio yn wythnosol, a dyddiol. Dangosodd o fod gen i angerdd arall yn fy mywyd – swyddogaeth a rheolaeth weithredol. Dwi’n andros o hapus, yn fodlon, yn fwy gwybodus nag o blaen, a dwi eisiau mwy.” 

 

Ailfeddwl beth oeddech chi'n gwybod am brentisiaethau?

Siaradwch â’n tîm heddiw am sut gall ein prentisiaethau help chi ar gam nesaf eich gyrfa.

Ein Achrediadau