Arwen Elan Teagle X EE
Datblygu hyder a ffeindio cydbwysedd: Siwrne prentisiaeth Arwen
Barod am Newid
Pan ymunodd Arwen Elan Teagle fel prentis Cynghorydd Gwasanaeth Technoleg Cwsmeriaid gydag EE Merthyr roedd hi’n barod am ddechrau newydd. Cyn ceisio, roedd Arwen yn edrych am gyfleoedd yn y diwydiant teledu a ffilm. Ond, roedd y diffyg sefydlogrwydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn gwneud o’n anodd adeiladu’r dyfodol roedd hi eisiau. Roedd hi’n gwybod bod hi angen rôl lle gall hi ddysgu, cael ei chefnogi a datblygu.
Daeth y cyfle pan aeth Arwen ar wefan EE a darganfyddodd y rhaglen prentisiaeth mewn parteriaeth gydag Itec. Roedd y cyfle i gael profiad ymarferol a chymhwyster cydnabyddus yn apelio ati hi’n fawr. Ceisiodd a chafodd ei derbyn. Dechreuodd ei phrentisiaeth ym mis Chwefror 2026 – y rol newydd a’r cymhwyster BTEC Lefel 2 Gwasaneth Cwsmer.
Cyfle Newydd
Yn ystod y mis cyntaf, wnaeth Arwen cwrdd â’i asesydd Itec. Wnaethon nhw esbonio strwythur y cymhwyster a be dyle hi disgwyl trwy gydol y rhaglen. Ers hynny, mae Arwen wedi gwneud cynnydd rhagorol. Mae hi wedi cwblhau 59%, sy’n llawer mwy na’r targed o 19%. Hefyd mae hi’n parhau i weithio’n galed i aros ar y trywydd iawn gyda’i thasgau NVQ a chyfrifoldebau gweithle.
Cydnabodd ei chyflogwr yn EE Merthyr yn gyflym ei ymrwymiad a gallu:
“Fel prentis mae Arwen yn gwneud yn dda iawn gyda’i gwaith ac i gwblhau galwadau. Dysgodd hi’n gyflym, mae hi’n annibynnol ac yn mynd ati gyda’i gwaith. Yn ogystal, mae’n cyrraedd ei ystadegau i gyd, yn rhagweithiol a wastad yn gofyn am adborth.”
Wnaeth ei asesydd Jacqueline Gwillim-Smith amlygu ei chryfderau. Gan ei disgrifio yn ymrwymedig, yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn awyddus i herio ei hun. Nododd bod Arwen o hyd yn gofyn y cwestiynau cywir i ddeall anghenion cwsmeriaid ac yn darparu gwybodaeth glir iddynt. Adiodd Jacqueline:
“Mae Arwen yn ddysgwr ardderchog ac o hyd yn troi ei gwaith i mewn cyn y terfyn amser. Mae ei gwaith o safon uchel, mae hi ar darged i gwblhau ei chymhwyster. Mae’n bleser gweithio efo hi.”
Wynebu Heriau
Er bod Arwen ar gychwyn ei phrentisiaeth, mae hi dal wedi dangos gwytnwch. Gall byw gydag awtistiaeth meddwl bod amgylchedd newydd yn achosi straen. Ond gyda’r gefnogaeth gywir a diwrnod strwythuredig, mae wedi gallu rheoli’r rhwystrau a setlo i mewn i’w swydd yn hyderus.
Mae’r brentisiaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwerthfawr i’w bywyd dydd i ddydd yn barod. Myfyriodd Arwen ar y newidiadau positif mae hi wedi profi:
“Nawr mae fy ngwaith a bywyd yn gytbwys, sy’n wahanol i’r gorffennol. Rwyf yn hapus i ddysgu yn y gweithle, ac i dderbyn cymhwyster ar yr un adeg.”
Dyfodol Disglair
Yn edrych i’r dyfodol, mae Arwen yn gyffrous i gwblhau ei chymhwyster a gweld pa mor bell mae’n gallu mynd gydag EE. Wedi ysbrydoli gan y cyfleoedd sydd ar gael iddi hi, mae gan Arwen syniad gwell i ba gyfeiriad mae ei dyfodol yn mynd.
Pan gafodd ei gofyn beth basau hi’n deud i rywun oedd yn meddwl am brentisiaeth, dywedodd:
“Ewch amdani. Rydych yn cynilo wrth ddysgu, datblygu sgiliau newydd ac rydych mewn amgylchedd newydd. Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth i ddysgu – rydych yn ennill ym mhob ffordd.”
Nid yw siwrne Arwen drosodd eto. Bydd ei benderfyniaeth, cynnydd a hyder yn dangos beth yn union mae prentisiaethau yn cynnig: strwythur, cefnogaeth, a llwybr i ddyfodol disglair.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









