Gofal plant, Chwarae, a Datblygu Dysgu
Mae’r brentisiaeth mewn Gofal Plant wedi’i chynllunio i gefnogi’r rhai sy’n gweithio gyda phlant neu’n gofalu amdanyn nhw fel gweithwyr yn y sector gofal plant neu feithrin.
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y rhaglen hon yw datblygu dealltwriaeth o ddatblygiad plant, sut i ddiogelu eu lles a hyrwyddo cyfathrebu da.
Ieithoedd
Saesneg
Cymraeg
Mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu dealltwriaeth o ddatblygiad plant, sut i ddiogelu eu lles a hyrwyddo cyfathrebu da.
Ar gyfer pwy?
Y rhai mewn unrhyw rôl sy’n ymwneud â gofal a datblygiad plant.
Mae’r prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Lefelau
Mae’r brentisiaeth hon ar gael ar Lefel 2, Lefel 3, Lefel 4 a Lefel 5
Elfennau’r Rhaglen
Cymwysterau mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.
Sgiliau Hanfodol Cymru.
Pynciau a Drafodir
Deall a hyrwyddo datblygiad plant.
Deall sut i ddiogelu lles plant.
Cefnogi iechyd a diogelwch plant.
Datblygu perthynas gadarnhaol gyda phlant ac eraill sy’n ymwneud â’u gofal.
Hyrwyddo cyfathrebu mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu blant.
Beth nesaf?
Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth, gallech symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch mewn Gofal Plant neu brentisiaeth Rheoli.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.
Ein Clientiaid Prentisiaethau
















