Rheolaeth Gweithrediadau

Ehangwch eich arweinwyr i uchelfannau newydd gyda’n rhaglen Rheoli Gweithrediadau gynhwysfawr sydd wedi’i chynllunio i ddarparu’r sgiliau strategol sy’n hanfodol ar gyfer ysgogi llwyddiant sefydliadol.

  • Dysgu yn y gweithle.
  • Cymhwyster Lefel 5.
  • Cyllid ar gael.

Trosolwg o’r Cwrs

Arweinir y gweithdai gan arbenigwyr yn y diwydiant a chânt eu teilwra i ddiwallu anghenion unigryw eich sefydliad. Gyda modiwlau sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol, arweinyddiaeth tîm, a gwneud penderfyniadau beirniadol, bydd eich gweithwyr yn gallu gyrru rhagoriaeth weithredol a chyfrannu at lwyddiant eich cwmni.

Iaith

Saesneg

Lefel

Lefel 5

Yn gyfwerth â:

    • Diploma Addysg Uwch (DipHE)
    • Gradd Sylfaenol
    • Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)

Ar gyfer pwy?

Arweinwyr mewn swyddi uwch – byddech fel arfer yn gyfrifol am reoli adran neu swyddogaeth.

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol:

  • Bod mewn rôl lle gallent ddefnyddio sgiliau y brentisiaeth.
  • Bod yn treulio o leiaf 50% o’r oriau gweithio yn Lloegr.
  • Bod yn gyflogedig ar Gynllun TWE (dim yn hunan cyflogedig neu’n llawrydd).
  • Peidio cael yr un cymhwyster neu gymhwyster lefel uwch yn yr un maes pwnc.

    Elfennau’r Rhaglen

    Rheolwr Gweithrediadau / Rheolwr Adran Lefel 5:

    • Rhaglen gyflawni 18 mis.
    • Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdy ar-lein pob 6 wythnos ac yn cael sesiwn wyneb-i-wyneb un-i-un gyda’u mentor pob mis. Gellir cysylltu â’r mentor unrhyw bryd yn ystod y sesiynau.
    • Ar ôl pob sesiwn bydd angen i ddysgwyr gwblhau adroddiad myfyriol gan edrych ar yr hyn y maent wedi’i gymryd o’r gweithdy, a sut mae’r wybodaeth newydd hon wedi neu y gellid ei defnyddio yn eu swydd.
    • Bydd defnyddio enghreifftiau seiliedig ar waith a thystiolaeth cynnyrch ategol, yn helpu i adeiladu eu portffolio a dangos dealltwriaeth o’r meini prawf a drafodwyd yn y gweithdy.
    • Cynnal EPA (Asesiad diweddbwynt).

    Pynciau a Drafodir

    • Rheoli Amser.
    • Deall Datblygiad Personol Broffesiynol ac Emosiynol.
    • Brand Personol, Dylanwadu, a Sgiliau Negodi.
    • Cyfathrebu Effeithiol.
    • Arwain Timau.
    • Rheoli Timau.
    • Cyllidebu a Chyllid.
    • Rheoli Prosiect.
    • Cynllunio Gweithredol a Rheoli Newid.
    • Rheolaeth Weithredol a Strategol.
    • Meddwl yn Feirniadol a Gwneud Penderfyniadau.

     

    Profiad Blaenorol?

    Mae Itec yn cynnig prentisiaethau carlam i gynadleddwyr gyda dysgu blaenorol. Darganfyddwch ein hopsiynau rhaglen carlam. Ar gael yn Saesneg yn unig.

    Cyllid sydd ar gael:

    Cost rhaglen Lefel 5 Rheolaeth Gweithrediadau fesul cynrychiolydd: £9,000.

    Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr bach’: £450 + TAW (5% o’r gost, grant y Llywodraeth yn ariannu 95%).

    Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr mawr’: Ariennir yn llawn drwy’r Ardoll Prentisiaethau. (Unwaith y bydd yr ardoll wedi’i gwario, dim ond 5% o unrhyw gostau rhaglen ychwanegol y byddwch yn ei dalu).

    *I fod yn gymwys ar gyfer y grant fel cyflogwr bach, rhaid i’ch cost cyflogres fod yn llai na £3 miliwn. Os yw eich cyflogres dros hyn, yna byddwch yn gyflogwr a ariennir gan ardoll.

    Ar ôl y cwrs

    ​Ar ôl cwblhau, gall prentisiaid ddewis cofrestru fel aelodau Cyswllt gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a/neu’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, i gefnogi eu datblygiad gyrfa proffesiynol a’u dilyniant.

    Sut Gallwn Ni Helpu Chi

    Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

    Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

    Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

    Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

    Prentisiaethau i Bawb

    Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

    Ein Cleilentiaid Prentisiaethau