Hyfforddi
Mae hyfforddiant effeithiol yn canolbwyntio ar y dyfodol, yn rhyddhau potensial, ac yn galluogi trawsnewid a newid ar gyfer gwella busnes.
Trosolwg o’r Cwrs
O ddeall hunan-ddeallusrwydd a deallusrwydd emosiynol i feistroli technegau rheoli a gwerthuso contractau, mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r cyfan. Mae’r rhaglen wedi’i theilwra i ryngweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys timau AD, Dysgu a Datblygu, a Datblygu Sefydliadol, gan sicrhau dull cyfannol o ddatblygu pobl.
Iaith
Lefel
Lefel 5
Yn gyfwerth â:
- Diploma Addysg Uwch (DipHE)
- Gradd Sylfaenol
- Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)
Ar gyfer pwy?
Poblogaidd ymhlith Adnoddau Dynol , Dysgu a Datblygu ac uwch reolwyr.
Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol:
- Bod mewn rôl lle gallent ddefnyddio sgiliau y brentisiaeth.
- Bod yn treulio o leiaf 50% o’r oriau gweithio yn Lloegr neu Gymru.
- Bod yn gyflogedig ar Gynllun TWE (dim yn hunan cyflogedig neu’n llawrydd).
- Peidio cael yr un cymhwyster neu gymhwyster lefel uwch yn yr un maes pwnc.
Elfennau’r Rhaglen
Rhaglen Hyfforddi Lefel 5:
- Rhaglen gyflawni 13 mis
- Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdy diwrnod llawn bob 8 wythnos gyda sesiwn fyfyriol ½ diwrnod rhwng gweithdai, ynghyd â sesiwn un-i-un gyda’u Mentor Rheoli bob mis i fonitro’r broses.
- Ar ôl pob sesiwn bydd angen i ddysgwyr gwblhau adroddiad myfyriol gan adlewyrchu ar yr hyn y maent wedi’i gymryd o’r gweithdy, a sut mae’r wybodaeth newydd hon wedi neu y gellid ei defnyddio yn eu swydd.
- Bydd defnyddio enghreifftiau seiliedig ar waith a thystiolaeth ategol o gynnyrch, yn helpu i adeiladu eu portffolio a dangos dealltwriaeth o’r meini prawf a drafodwyd yn y gweithdy.
- Cynnal EPA (Asesiad Diweddbwynt).
Pynciau a Drafodir
Rheoli’r contract: Cytuno a datblygu contractau hyfforddi gyda’r holl bartïon perthnasol sydd hefyd yn ystyried materion moesegol mewn hyfforddi a therfynau.
Meithrin y berthynas: Cyflwyno sesiynau hyfforddi effeithiol ac ymatebol, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu terfynau a gofynion proffesiynol ac yn cyfrannu at amcanion ehangach, fel gwreiddio gwerthoedd sefydliad, gwella gwytnwch yn y gweithle.
Galluogi mewnwelediad a dysgu: Dewis a defnyddio amrywiaeth addas o dechnegau hyfforddi a/neu seicometreg i herio/cefnogi, dadansoddi a galluogi dysgu a mewnwelediadau, fel ymwybyddiaeth o safbwyntiau eraill i gynyddu gweithrediad ac atebolrwydd tîm
Cyfeiriadedd canlyniadau a chamau gweithredu: Darparu cymorth i’r rhai sy’n cael eu hyfforddi i ddiffinio a chyflawni nodau dilys, drwy gamau gweithredu sydd wedi’u diffinio’n glir ac sy’n ymrwymedig i hynny, o fewn cyd-destun y diwylliannau a’r systemau y mae’r rhai sy’n derbyn hyfforddiant yn gweithredu oddi mewn iddynt, a hwyluso her i’r systemau hynny lle bo’n briodol.
Gwerthuso: Gwerthuso effeithiolrwydd rhyngweithiadau hyfforddi at ddibenion sicrhau ansawdd, hunanddatblygiad ar gyfer yr hyfforddwr ac i fesur yr elw ar fuddsoddiad (gan gynnwys bod yn dderbynnydd goruchwyliaeth hyfforddwr rheolaidd, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), oriau hyfforddi, adborth a myfyrdod, wrth sicrhau cyfrinachedd).
Ymrwymiad i hunanddatblygiad: Cadw cofnodion o arferion hyfforddi gan gynnwys cofnodi oriau hyfforddi, goruchwylio, cofnodi DPP a chynnal cofnodion ymarfer.
Beth nesaf?
Mae’r safon hon yn cyd-fynd a’r gydnabyddiaeth broffesiynol ganlynol:
- European Mentoring and Coaching Council for Accredited Coaching Practitioner
- Cymdeithas Hyfforddi Hyfforddwyr Achrededig
- Ffederasiwn Hyfforddwr Rhyngwladol ar gyfer Hyfforddwr Ardystiedig Cyswllt.
Cyllid ar gael:
Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr bach’: £250 + TAW (5% o’r gost, grant y Llywodraeth yn ariannu 95%).
Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr mawr’: Wedi’i ariannu’n llawn drwy’r Ardoll Prentisiaethau. (Unwaith y bydd yr ardoll wedi’i gwario, dim ond 5% o unrhyw gostau rhaglen ychwanegol y byddwch yn ei dalu).
*I fod yn gymwys ar gyfer y grant fel cyflogwr bach, rhaid i’ch cost cyflogres fod yn llai na £3 miliwn. Os yw eich cyflogres dros hyn, yna byddwch yn gyflogwr a ariennir gan ardoll.
Profiad Blaenorol?
Mae Itec yn cynnig prentisiaethau carlam i gynadleddwyr gyda dysgu blaenorol. Darganfyddwch ein hopsiynau rhaglen carlam. Ar gael yn Saesneg yn unig.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.
Ein Cleilentiaid Prentisiaethau
















