Triniwr Gwallt Gorau 2024 yng Nghymru yn rhannu Buddion Partneriaeth Itec ar gyfer Busnesau Bach
Mae Nicholas James yn Driniwr Gwallt Enwog cenedlaethol. Ymddangosodd yn diweddar ar BBC Radio 1 ar ôl ennill gwobr Triniwr Gwallt Prydeinig y Flwyddyn Cymru a De Orllewin Lloegr.
Nid yn unig y mae’n rhyfeddol am yr hyn y mae’n ei wneud ond hefyd o ran hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o drinwyr gwallt trwy rannu ei sgiliau.
Mae Nick wedi bod yn cefnogi dau ddysgwr ifanc Itec yn ei salon Nicholas James Hair yn Nhonypandy am y flwyddyn ddiwethaf i gyflawni eu cymhwyster L1 gyda rhaglen TSC+. Mae Nicholas nawr yn edrych i archwilio Strand Cyflogaeth TSC+ i barhau â’u hyfforddiant a symud ymlaen i gyflogaeth amser llawn.
Dywedodd Nick, “Mae Itec a rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn wych, yn enwedig i fusnesau bach. Mae’n dda i’r cyflogwr fod ei lywodraeth wedi’i ariannu ac mae’n dda i’r unigolyn.”
“Mae dysgu trin gwallt yn y coleg yn wahanol iawn i ddysgu ar leoliad gwaith. Mae’n dda iddynt ddod i mewn a chael profiad salon a gwybod yn union sut i ddelio â chwsmeriaid o’r dechrau. Gyda chymorth Itec o ran cyllid y llywodraeth, mae’n help mawr i unrhyw fusnes bach.
“Dylai busnesau bach 100% fynd amdani. Byddwch yn cael hyfforddai sydd wedi’i hyfforddi yn union sut basau chi’n dymuno, a nhw yw dyfodol eich busnes.”
Dywedodd Nick ei fod yn gallu gweld dyfodol lle mae Kaci a Lacie yn cynyddu o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+ i brentisiaeth yn y salon ac yna cyflogaeth llawn amser.
Hanes Nick
Dechreuodd Nick ei hyfforddiant ei hun fel steilydd yn Nhonypandy mewn dau salon lleol gwahanol. Cafodd y cyfle i deithio i salon am enwogion yn Wolverhampton. Pan agorodd salon newydd yn Amwythig, yn 20 oed, cynigiwyd swydd i Nick ac o fewn wythnos symudodd i swydd Amwythig. Dywedodd, “Fi yw’r math o berson y byddaf yn gwneud unrhyw cyfle a ddaw i gael profiad.”
Yna cyfarfu Nick â’r bersonoliaeth deledu Brydeinig Dawn Ward cyn ei hymddangosiad ar y ‘Real Housewives of Cheshire’. Yn y pen draw daeth yn steilydd i sawl aelod o gast y sioe.
Dywedodd Nick, “Roedd yn rhyfeddol. Dysgais llawer gan steilwyr eraill ac adeiladais fy mhroffil a fy arbenigedd. O honno, dechreuais wneud gwallt Gemma Collins.”
Brand ei hunan
Dechreuodd Nick wneud cynlluniau i ddechrau ei frand ei hun. Ar ôl profi pethau gwahanol a lefelau gwahanol o drin gwallt, roedd yn gyfle perffaith i ddod yn ôl i Donypandy. Roedd o eisiau cyflwyno rhywbeth arbennig i’r gymuned a rhannu gwybodaeth i drinwyr gwallt sylfaenol fel Kaci a Lacie.
Meddai, “Mae trin gwallt wedi newid yn aruthrol. Dyw pobl ddim eisiau cael eu cyflogi bellach, maen nhw eisiau bod yn berchen ar eu salon eu hunain. Mae’n anodd iawn dod o hyd i rywun sydd eisiau gweithio a ddim yn gweithio iddyn nhw eu hunain.” I Nick, dyma ble daeth ei bartneriaeth ag Itec i mewn. Cafodd Kaci a Lacie y siawns i ddysgu gan arbenigwr a gwelon nhw sut fath o ddyfodol gall yrfa yn y diwydiant gwallt arwain i.
“Rwy’n teithio o gwmpas y wlad yn aml, yn enwedig gyda fy ngwobr ddiweddar. Dwi ddim yn gwybod i ble mae’n mynd i fynd â fi. Rwy’n dal yn hoffi manteisio ar unrhyw gyfle a ddaw. Roedd [lleoliadau gwaith TSC+] yn ffordd berffaith i fowldio unigolion i ble rydw i eisiau iddyn nhw fod. Mae’n ddiwydiant mor gyffrous, a gall fynd â chi i leoedd gwahanol, felly mae unrhyw ffordd y gallaf roi yn ôl yn wych.”
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.












