Tiwtor ieuenctid Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr tiwtor y flwyddyn
Tiwtor ddisglair
Mae un o’n tiwtoriaid Ieuenctid wedi llwyddo i gael ar Restr Fer, Gwobr Tiwtor y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
“Dwi’n caru bod yn addysgwr mae’n fy ngalluogi i barhau i annog pob dysgwr i feddwl tu hwnt i’w parthau cysurus a’u herio i gyrraedd eu potensial llawn.” – Hannah Kane-Roberts, Tiwtor Ieuenctid yn Itec.
Un o fanteision mwyaf swydd Hannah Kane-Roberts yw cefnogi dysgwyr ar hyd eu taith a’u gwylio’n llwyddo.
Ei chefndir
Daw Hannah, 27, o Sblot yng Nghaerdydd. Mae hi’n diwtor ieuenctid yng Nghanolfan Caerdydd Itec. Gweithir hi gyda dysgwyr sy’n cael trafferth ymgysylltu ag addysg ac sydd â rhwystrau lluosog i gyflogaeth a dysgu.
Cyflawnir 80% o’i dysgwyr dilyniant cadarnhaol i gyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach. Mae Hannah wedi cyflawni cyfradd llwyddiant gweithgaredd 100% yn y cymhwyster cyflogadwyedd y mae’n ei gyflwyno i’w dysgwyr.
Mae rhaglen dysgu a datblygu pob unigolyn wedi’i theilwra’n bersonol diolch i’r cyfraniad cadarnhaol y mae Hannah wedi’i wneud. Roedd hi wedi adolygu ac ailgynllunio cwricwlwm Hyfforddeiaethau Itec mewn partneriaeth â dysgwyr, yn 2019.
Cydnabyddiaeth rhagorol
I gydnabod ei gwaith, mae Hannah ar restr fer gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Bydd y dathliad blynyddol hwn o yn gweld 35 o gystadleuwyr y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar Ebrill 29fed.
Yn uchafbwynt y calendr, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau. Y rhai sydd wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach ydy busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd o brentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ei thaith
Dechreuodd Hannah ei gyrfa gydag Itec yn 2016 fel gwirfoddolwr. Wedyn symudodd ymlaen i fod yn weithiwr cymorth dysgu ychwanegol, cynorthwyydd dosbarth, hyfforddwr dysgu a’i rôl bresennol.
Yn angerddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP), mae hi wedi cyflawni cymhwyster Hyfforddwr Dysgwr Lefel 4, gradd BSc (Anrh) mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a Thystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg.
Mae Hannah yn cefnogi cydweithwyr gyda’u DPP ac yn rhagori ar ymgysylltu â sefydliadau allanol. Mae hyn i ddod yn bartneriaid cyflwyno i helpu dysgwyr i fynd i’r afael â rhwystrau gwaith.
Yn ystod y cyfyngiadau, gwnaeth y defnydd mwyaf posibl o lwyfannau digidol i sicrhau bod ei dysgwyr yn parhau i symud ymlaen. Cynhyrchodd ‘Canllawiau Sut i’ ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr gan ddefnyddio llwyfannau digidol.
Casgliad
Myfyriodd Hannah:
“Rwy’n credu’n gryf bod pob dysgwr yn haeddu cyfle, waeth beth fo’u sefyllfa bresennol neu rwystrau i ddysgu.”
Dywedodd Esther Barnes, cyfarwyddwr adnoddau dynol Itec: “Mae Hannah yn uchel ei pharch ymhlith ei dysgwyr a’i chydweithwyr ac mae’n derbyn lefelau uchel o adborth cadarnhaol gan ddysgwyr yn gyson. Mae ei hagwedd bersonol yn golygu bod pob dysgwr yn cael ei drin fel unigolyn heb fod dwy daith dysgwr yr un peth.”
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















