Sgwrs Iechyd Meddwl Dynion ar Ddydd Llun Glas

Fel cyflogwr sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr, rydyn ni fel Itec yn grymuso ein tîm i ddefnyffio lleisiau nhw i rannu beth sy’n bwysig. Mae ein Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid, Jamie Young, yn pwysleisio hynny drwy agor lan am bwnc sy’n agos ato – iechyd meddwl dynion.

Yn y blog hwn, mae Jamie yn rhannu ei syniadau, ei brofiadau a’i farn am bwnc sy’n effeithio arnom i gyd. Cymryd eiliad i fyfyrio a dechrau sgwrs am iechyd meddwl, yn enwedig wrth i ni fordwyo dydd Llun Glas.

Jamie

Dwi’n eiriolwr mawr dros iechyd meddwl dynion (ac iechyd meddwl yn gyffredinol) – Mae’n ENFAWR o bwysig i mi!
Rydw i wedi cefnogi nifer o ffrindiau agos ac aelodau o’m teulu sydd wedi cael trafferth dros y blynyddoedd. Ac hefyd yn anffodus, ychydig o ffrindiau agos sydd wedi colli’r frwydr.

Yn aml, nid yw dynion eisiau siarad am eu hiechyd meddwl.
Nid yw’n rhywbeth sydd wedi bod yn gyffredin iawn. Mae’n ganfyddiad rheolaidd ymhlith dynion a bechgyn bod rhaid iddynt fod yn eithriadol o gryf. Yn aml maent yn garreg o sefydlogrwydd mewn perthynas.’

Bu stigma ynglŷn â dynion yn siarad yn agored am eu teimladau. Felly, bydd unrhyw fath o sgwrs yn yr ardal honno’n golygu bod llawer o ddynion yn cau ei deimladau lawr.

Hyd yn oed heddiw, wrth i blant bach cynhyrfu, bydd tad yn aml yn dweud wrth eu bachgen bach ‘peidiwch â chrio- nid yw bechgyn yn crio’. Y math yma o ddatganiadau sy’n atgyfnerthu’r meddylfryd o oedran ifanc.

Mae’r rhain yn gysylltiedig â chanfyddiadau ynghylch hunaniaeth o ran rhywedd sydd heb esblygu ers degawdau. Er nawr mae’n cael eu herio fwy a mwy.

Yn fy mhrofiad i mae dynion yn cadw eu meddyliau, teimladau a thrafferthion at ei hunan. Er bod hynny’n gwella fel ymwybyddiaeth, mae llawer o waith i’w wneud. Mae hyn yn cynnwys gwneud iechyd meddwl dynion yn bwynt siarad agored ac anffurfiol.

Beth sy’n helpu fi

Rwy’n gweld bod cerddoriaeth hynod drwm yn dda ar gyfer straen haha 😝. – Er mewn gwirionedd, roedd cael cymaint o bobl yn fy mywyd oedd yn stryffaglu gydag iechyd meddwl wedi sbarduno’r addysg. Addysg am iechyd meddwl fy hunan, yn gyffredinol ac hefyd sut i gadw ‘gwreiddiau cryf’ fy hunan.

  • Yn bersonol, byddwn yn argymell:
    Cysgu’n rheolaidd. -(Mae cylchoedd nodweddiadol rhwng 90 a 120 munud, felly mae amseru eich gorffwys o gwmpas cylch cyflawn yn cynnig y budd mwyaf.)
  • Bwyta’n Iach. -(Nid yw CYMAINT o bobl yn sylweddoli bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â’r pethau rydych chi’n eu rhoi yn eich corff. Mae siwgrau prosesedig, traws-fatiau, ychwanegion a chemegau i gyd yn effeithio ar eich meddwl a’ch teimlad o ‘hunan.’)
  • Ymarfer Corff. -Mae 30 munud y dydd yn gwneud gwahaniaeth ENFAWR. Rhyddhau’r endorffiniaid!
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar. – Mae’n eich helpu i daweli eich meddwl, ymdopi ag emosiynau a straen anodd a hefyd yn helpu gyda’ch hunanymwybyddiaeth a’ch agwedd gadarnhaol.
  • AROS YN HYDRADEDIG.- Teimlo’n aneglur a rhedeg i lawr? Mae’n anhygoel beth fydd dau litr o ddŵr y dydd yn newid yn y ffordd rydych yn teimlo.
  • Myfyrdod. – Nid yw e i bawb, ond os ydych chi’n fodlon rhoi cynnig arni, gall o helpu llawer gyda lleihau pryder, straen a gwella eich hunanymwybyddiaeth. Nid oes rhaid iddo fod yn fatha Hippie-iish (Dim tye-dye ei angen).
Argymhellion eraill

Byddwn yn argymell apiau fel (Mae pob un yn wych):

  • Headspace
  • Calm
  • Tappy
  • Wysa Grwpiau cymorth:

Andy’s Man Club (❤️) – Mae ganddynt grwpiau ym Mhontypridd, Merthyr, y Fenni ac (rwy’n meddwl Porthcawl) – Mae ganddynt grwpiau cymorth ar-lein hefyd.
Mind – Adnodd wych.
CAVAMH – Grŵp cymorth De Cymru. Maent yn elusen gofrestredig.

Hafan Y Coed – Cymorth gan y GIG yn ysbyty Llandochau.
EICH GP – Mae’n debyg mai hwn yw’r un pwysicaf. Peidiwch byth â bod ofn siarad â’ch GP.
Ffrindiau – Mae siarad â’ch ffrindiau a chael grŵp cymorth yn fuddiol iawn a gall wneud byd o wahaniaeth.

Jane John, performance manager, sitting in a chair smiling and holding two tins of food

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau