Mae Itec yn dathlu 40 mlynedd mewn busnes

Dathliadau 40

Mae Itec yn dathlu 40 mlynedd mewn busnes.

Mae’r darparwr hyfforddiant arbenigol Itec wedi agor adeilad ychwaegol yng Nghanol Ddinas Caerdydd. Mae hyn er mwyn cyflwani twf mawr y cwmni wrth iddynt dathlu 40 mlynedd mewn busnes.

Lleolir y canolfan dysgu newydd yn Eastgate House ar Heol Casnewydd yng Ngaerdydd. Gyda 7,500 troedfedd sgwâr ychwanegol bydd lle i ddysgwyr datblygu sgiliau newydd, derbyn cymwysterau a chyfleoedd cyflogaeth.

Bydd y ganolfan newydd yn helpu i hwyluso darpariaeth y rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Rhoddir Llywodraeth Cymru £200m i’r rhaglen. Mae hyn i sicrhau bod mwy o bobl ifanc 16-18 oed yn cyrraedd eu botensial llawn. Gan gydweithio gydag Itec maent yn hwyluso pobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf yn y byd gwaith.

Cefndir

Cyflogir Itec 180 o staff mewn 15 o swyddfeydd ar draws De a Gorllewin Cymru. Mae ganddo ganolfan yn Llundain a 180 o bobl eraill a gyflogir yn anuniongyrchol trwy bartneriaethau. Yn 2019 daethom y darparwr hyfforddiant Cymreig cyntaf i fod yn eiddo i’r gweothwyr 100%. Wnaethon troi £12m yn ein blwyddyn ariannol a oedd yn diweddu Gorffennaf 2021.

Yn rhannol, mae llwyddiant y sefydliad o ganlyniad i lwyddiant contractau hyfforddi’r llywodraeth. Mae Itec yn un o ddim ond 10 darparwr dan gontract, gan gynnwys rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+.

Gair gan ein Gyfarwyddwr

Dywedodd Ceri Murphy, rheolwr gyfarwyddwr Itec:

“Mae 40 mlynedd yn garreg filltir enfawr i unrhyw sefydliad. Roedd cael dathlu hynny gydag agoriad ein hail swyddfa yng Nghaerdydd yn dyst i’n twf. Adlewyrchir ein ymrwymiad i’r miloedd o ddysgwyr rydyn ni wedi helpu. Boed hynny drwy helpu nhw i uwchsgilio, dod o hyd i’r gyflogaeth/ prentisiaeth gywir, neu darparu’r arweiniad i’w gosod ar y llwybr cywir. Mae profiad Eastgate House yn golygu bod o’n hawdd i ddysgwyr alw heibio’r ganolfan. Gallent gael mynediad rheolaidd at eu tiwtoriaid a’u staff cymorth.”

 

“Mae’r sector hyfforddiant a sgiliau wedi newid yn aruthrol yn y 40 mlynedd diwethaf. Rydym wedi mynd o fod dros 200 o gyflenwyr fel ni yn gweithio i Lywodraeth Cymru i fod yn 1 o ddim ond 10. Rydyn ni wedi para diolch i ansawdd ein darpariaeth. Yn ogystal â’n gallu i addasu i dirwedd cyflogaeth a sgiliau cyfnewidiol yn gyflym. Gwelwn bwlch sgiliau sylweddol, yn enwedig yn y sectorau lletygarwch a gofal. Bydd buddsoddi mewn hyfforddiant yn llwybr amlwg i helpu cyflogwyr a phobl ifanc.”

Casgliad

Bydd swyddfa newydd Itec yng Nghaerdydd yn gartref i 11 o staff a fydd yn darparu Twf Swyddi Cymru+ a rhaglen Ailgychwyn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Parhaodd Ceri:

“Wrth edrych i’r dyfodol, rydym am barhau i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc. Hefyd adeiladwn ar ein diwylliant sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn creu mwy o gyfleoedd yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt. Mae prentisiaethau’n aml yn cael eu hanwybyddu gan ddysgwyr a’u rhieni diolch i ystrydebau hen ffasiwn. Ond credaf yn gryf y byddant yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu i adeiladu economi a sylfaen sgiliau gryfach yng Nghymru ar ôl y pandemig. Mae bod yn EOT yn golygu bod ein holl staff wedi’u buddsoddi’n llwyr i sicrhau’r canlyniadau gorau absoliwt i’n cwsmeriaid a hefyd ein dysgwyr.”

 

This is an image of a balloon of the Itec Skills and Employment logo. It is the focus of the image and is displayed in a large open setting room.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau