Grymuso Dyfodol trwy Gyflogaeth: Dathlu Diwrnod Cyflogadwyedd Cenedlaethol gyda Phwrpas a Balchder
Gan Adele Hughes
Dathlu Cyflogadwyedd
Mae Diwrnod Cyflogadwyedd Cenedlaethol ar y gorwel. Rwy’n cael fy atgoffa o werth aruthrol y diwrnod, nid yn unig i unigolion, ond i deuluoedd, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae cyflogaeth yn fwy na ffordd o ennill bywoliaeth; mae’n rhan hanfodol o sut rydym yn diffinio ein hunaniaeth. Yn ychwanegol, mae’n meithrin hyder ac yn llunio ein dyheadau.
Yn fy rôl fel Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), mae gen i’r fraint o weld yn uniongyrchol sut mae ein tîm ymroddedig yn cefnogi unigolion i gymryd camau ystyrlon tuag at gyflogaeth gynaliadwy. Mae ein ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd craidd wrth wraidd popeth a wnawn. Gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a gwydnwch. Nid ydym yn paratoi pobl ar gyfer marchnad swyddi heddiw yn unig; rydym yn eu cyfarparu ar gyfer oes o gyfleoedd a thwf.
Un o elfennau mwyaf pwerus ein rhaglen yw’r gefnogaeth a gawn gan ein rhwydwaith o bartneriaid cyflogwyr ymroddedig. Nid yw’r cyflogwyr hyn yn cynnig lleoliadau yn unig, maent yn darparu profiad yn y byd go iawn. Yn ychwanegol darparwn mentora, ac, mewn llawer o achosion, cyfleoedd cyflogaeth uniongyrchol sy’n trawsnewid bywydau go iawn. Mae eu cred yn ein dysgwyr a’u parodrwydd i fuddsoddi mewn datblygu talent newydd yn gonglfaen i’n llwyddiant. Mae’n dangos pŵer cydweithio rhwng addysg, gwasanaethau cymorth, a diwydiant i greu effaith barhaol.
Eleni
Eleni, mae’r effaith honno’n gliriach nag erioed. Rydym yn falch o adrodd hyd yn hyn fod 41% o’n dysgwyr JGW+ wedi symud ymlaen i gyflogaeth yn ystod y flwyddyn gontract hon. Wir mae hyn yn dyst i waith caled ein dysgwyr, ymroddiad ein timau, a chefnogaeth ddiysgog ein rhwydwaith cyflogwyr. Trwy gefnogaeth strwythuredig, llwybrau personol, a chydweithrediad cryf â chyflogwyr, rydym yn parhau i weld rhwystrau’n cael eu torri, hyder yn cael ei adfer, a dyfodol yn cael ei ailddychmygu.
Mae Diwrnod Cyflogadwyedd Cenedlaethol yn ddathliad o’r daith honno. O’r dewrder sydd ei angen i ddechrau, yr ymdrech sydd ei hangen i barhau, a’r balchder sy’n dod gyda chynnydd. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o raglen. Un sydd nid yn unig yn agor drysau, one hefyd yn helpu pobl i gerdded drwyddynt gyda phwrpas, hyder a gobaith, yn aml yn syth i’r union weithleoedd a gredodd ynddynt yn gyntaf.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.












