Dysgwyr Itec yn barod i ddisgleirio wrth i Gymru gynnal rowndiau terfynol Cenedlaethol ‘WorldSkills’ y DU am y tro cyntaf

Mae’n flwyddyn nodedig i sgiliau galwedigaethol yng Nghymru – ac yn foment gyffrous i dri dysgwr rhagorol o Itec (Sgiliau a Chyflogaeth). Ym mis Tachwedd eleni, byddant yn mynd â’u talentau i’r lwyfan genedlaethol wrth i rowndiau terfynol Cenedlaethol ‘WorldSkills’ y DU ddod i Gymru am y tro cyntaf erioed.

O ‘r 26ain i 28ain o Dachwedd, bydd pum lleoliad ledled Cymru yn croesawu dros 400 o brentisiaid a dysgwyr mwyaf medrus y DU am dri diwrnod llawn cyffro o gystadlu ar draws 47 o ddisgyblaethau gwahanol. I driawd talentog Itec — Yusuf Asif, Mairah Taj a Natalia Siwy — mae’n gyfle i arddangos y sgiliau a’r hyder maen nhw wedi bod yn eu datblygu drwy gydol eu taith ddysgu.

Bydd y tri yn cystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau Sylfaen: Menter, gan arddangos creadigrwydd, datrys problemau a gwybodaeth fusnes o dan bwysau llwyfan cenedlaethol. Gyda bron i 30% o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn dod o Gymru, mae presenoldeb Itec yn y rownd derfynol yn foment falch i’r sefydliad ac yn adlewyrchiad gwych o waith caled dysgwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd.

Dathlodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, y cyhoeddiad, gan ddweud: “Mae’r cystadlaethau hyn yn dangos gwerth a chymwysiadau prentisiaethau yn y byd go iawn ac maent yn amhrisiadwy wrth baratoi ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Rwy’n falch bod Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol ‘WorldSkills’ y DU 2025. Mae gennym wlad brydferth, a gobeithio y bydd pob ymwelydd yn cymryd peth amser i’w harchwilio. Rwy’n dymuno pob lwc i’r garfan newydd hon o gystadleuwyr – rwy’n gwybod y byddwch chi’n gwneud eich hunain a ni i gyd yn falch.”

I Yusuf, Mairah a Natalia, mae cyrraedd y cam hwn eisoes yn gamp enfawr. Mae’r Rowndiau Terfynol yn cael eu cydnabod yn eang fel man cychwyn i bobl ifanc ddatblygu sgiliau sy’n barod ar gyfer gyrfa ac ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Gall y rhai sy’n rhagori hyd yn oed gael eu dewis i gynrychioli’r DU ar y llwyfan rhyngwladol yng ‘Ngemau Olympaidd Sgiliau’ yn Japan yn 2028. Mae Tiwtor Arweiniol Twf Swyddi Cymru+ Itec, Hannah Kane-Roberts, wedi bod gyda’r dysgwyr bob cam o’r ffordd. Dywedodd:

“Rwyf wrth fy modd dros ein tri dysgwr anhygoel o ganolfan Caerdydd. Maen nhw wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WSUK! Mor haeddiannol ar ôl yr holl waith caled ac ymdrech maen nhw wedi’i wneud. Am gamp! Mae cael eu henwi’n un o’r timau gorau yn eu maes sgiliau ledled y DU yn anhygoel. Fe wnaethon nhw lwyddo’n llwyr ar y diwrnod – gan addasu fel gweithwyr proffesiynol i bopeth a daflwyd atyn nhw. Rwy’n falch iawn!”

Yn Itec, rydym yn angerddol am gefnogi ein dysgwyr i ffynnu yn eu gyrfaoedd — gallwch ddarllen mwy o straeon llwyddiant ysbrydoledig gan ein dysgwyr yma.

Gyda dros 6,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK bob blwyddyn, mae’r Rowndiau Terfynol Cenedlaethol hyn yn fwy na dim ond cystadleuaeth — maent yn ddathliad o dwf personol, gwydnwch a rhagoriaeth dechnegol.

Mae pawb yn Itec yn haeddiannol falch o Yusuf, Mairah a Natalia wrth iddynt fynd i gam olaf eu taith. Maent yn ymgorffori ein gwerthoedd o rymuso, angerdd dros ddysgu, cynhwysiant a thwf. Dymunwn y gorau iddynt wrth iddynt chwifio’r faner dros Itec a Chymru ar lwyfan sgiliau mwyaf y DU.

This is an image of a learner with Jamie Brennan
This is an image of a learner with Jamie Brennan
This is an image of a learner with Jamie Brennan

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau