Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd
Heddiw rydym yn dathlu pen-blwydd Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd yn 10 oed. Thema eleni yw, “Grymuso Ieuenctid drwy AI a Sgiliau Digidol,” gan ganolbwyntio ar sut y gall technolegau newydd agor drysau i bobl ifanc ledled y byd.
Mae Jamie Brennan, Tiwtor Ieuenctid ar gyfer y cwrs TG yn Twf Swyddi Cymru+, yn myfyrio ar sut mae’n helpu dysgwyr i feithrin yr hyder a’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn dyfodol sy’n cael ei yrru gan dechnoleg:
Nid yw technoleg bellach yn rhywbeth rydyn ni’n ei “ddefnyddio” – mae’n rhywbeth rydyn ni’n byw gydag ef. Mae yn ein pocedi, ein cartrefi, ein gweithleoedd, a hyd yn oed yn ein sgyrsiau. Boed yn gosod larwm gydag Alexa, defnyddio sat nav i gyrraedd rhywle, siopa ar-lein, neu sgrolio trwy gyfryngau cymdeithasol, mae offer digidol wedi’u plethu i bob rhan o fywyd bob dydd.
Dyna pam nad yw sgiliau TG cryf yn ddefnyddiol yn unig – maen nhw’n hanfodol.
Yn y gweithle, ta beth fo’r diwydiant, bydd rhyw fath o dechnoleg yn gysylltiedig. O anfon negeseuon e-bost a rheoli taenlenni i ddefnyddio meddalwedd bwrpasol neu offer cyfathrebu digidol, mae cyflogwyr yn disgwyl lefel sylfaenol o hyder digidol. Ond nid yw’n stopio yn y gwaith. Yn ein bywydau personol, rydym yn dibynnu ar dechnoleg i gysylltu, llywio, dysgu, a hyd yn oed ymlacio.
Rydym hefyd yn byw mewn cyfnod lle mae gwybodaeth ym mhobman – ac nid yw’r cyfan ohoni’n wir. Gyda chynnydd offer AI fel chatbots model iaith mawr (y mae llawer o bobl yn eu galw’n syml yn “AI”), mae’n haws nag erioed cael atebion i gwestiynau. Ond mae hefyd yn haws nag erioed cael eich camarwain. Gellir llunio ffaith. Gellir cynhyrchu fideo o ddim byd. Gellir dylunio pennawd i ysgogi, nid i hysbysu.
Dyna pam mae sgiliau digidol heddiw yn mynd y tu hwnt i wybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Maent yn cynnwys y gallu i feddwl yn feirniadol, i gwestiynu’r hyn a welwn, ac i wirio’r hyn a ddywedir wrthym. Mae’n ymwneud â gallu torri trwy’r sŵn a dod o hyd i’r hyn sy’n real – i ddod o hyd i’ch gwirionedd mewn byd sy’n llawn gwybodaeth.
Yn Itec, nid dim ond addysgu TG yr ydym yn ei wneud — rydym yn helpu pobl i feithrin yr hyder i lywio byd digidol yn ddiogel, yn glyfar ac yn llwyddiannus. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n werth ei ddathlu ar Ddiwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd hwn.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.