Dathlu Diwrnod PG 2024
-Ysgrifenir gan Pennaeth Ansawdd, Vicky Galloni
Wrth i ni baratoi i ddathlu Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr (PG) 2024, cefais y fraint o arwain tîm a oedd yn ymroddedig i ailddiffinio gwerthoedd ac ymddygiadau craidd ein cwmni. Nid yn unig oedd y prosiect yn tanlinellu hanfod PG ond hefyd yn arddangos potensial ac ymrwymiad aelodau ein tîm.
Taith yn Dechrau yng Nghastell Caerdydd
Dechreuodd ein taith yng Nghastell hanesyddol Caerdydd, lleoliad mor fawreddog ac ysbrydoledig â’r dasg o’n blaenau. Ymgasglodd tîm y prosiect, a oedd yn cynnwys deg aelod o staff o adrannau amrywiol ar draws y busnes. Roedd hyn ar gyfer cyfarfod cychwynnol a osododd y naws ar gyfer y gwaith cydweithredol a chynhwysol i ddod. Dechreuon ni gan ofyn pam mae gwerthoedd ac ymddygiadau yn hanfodol ar gyfer cwmni llwyddiannus a diwylliant cadarnhaol. Gosodon ni’r sylfaen ar gyfer ein cenhadaeth.
Ysbryd Cydweithredol ac Arloesi Digidol
Gyda’n dealltwriaeth gychwynnol ar waith, wnaethom symud ymlaen drwy ddefnyddio offer digidol i feithrin cydweithredu. Sefydlon tudalen waith bwrpasol ar Microsoft Teams. Roedd hyn yn ein galluogi i rannu syniadau, dogfennau ac adborth yn ddi-dor. Daeth y man gwaith digidol hwn yn ganolbwynt i’n prosiect, gan ganiatáu rhyngweithio a chynnydd parhaus.
Er mwyn sicrhau bod pob llais o fewn ein cwmni yn cael ei glywed, fe datblygwn arolwg cynhwysfawr ar draws y cwmni. Cynlluniwyd yr arolwg hwn i gasglu syniadau ac awgrymiadau gan bob gweithiwr. Atgyfnerthir hyn y cred bod pob barn yn bwysig mewn busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr. Roedd cyfranogiad brwdfrydig y staff yn ostyngedig ac yn galonogol, gan adlewyrchu ymrwymiad ein gweithwyr i’n gwerthoedd.
Ymgysylltu Wyneb yn Wyneb a Gweithdai
Er bod cydweithio digidol yn hanfodol, roedden yn cydnabod pwysigrwydd rhyngweithio personol. Cynhaliodd pob aelod o dîm y prosiect weithdai wyneb yn wyneb gyda staff ar draws y busnes. Darparodd y sesiynau hyn lwyfan ar gyfer trafodaeth agored am ein gwerthoedd cyfredol, eu perthnasedd, a newidiadau posibl. Roedd yr ymgysylltiad cadarnhaol a gafwyd yn ystod y gweithdai hyn yn ysbrydoledig.
Cymryd Perchenogaeth a Chyfrifoldebau Cydbwyso
Tynnodd y prosiect sylw at rywbeth mwy trawiadol – aelodau’r tîm. Gwirfoddolon nhw i fod yn rhan o’r fenter hon. Daethant o adrannau amrywiol, gan gynnwys Staff Cyflenwi, Gwasanaethau Cwsmeriaid, AD, a Datblygu Busnes. Cymeron nhw cyfrifoldebau ychwanegol y prosiect hwn ochr yn ochr â’u tasgau dyddiol, gan ddangos ei ymrwymiad. Roedd cydbwyso eu dyletswyddau rheolaidd â thasgau’r prosiect yn gofyn am reolaeth amser, gan amlygu cryfder ac amlbwrpasedd ein tîm.
Twf Personol a Phroffesiynol
Nid mater o ailddiffinio ein gwerthoedd yn unig oedd y prosiect hwn; roedd hefyd yn gyfle ar gyfer twf personol a phroffesiynol i bawb. Cafodd aelodau tîm y prosiect gyfle i gymryd rhan mewn amcanion strategol, gweithio mewn gwahanol feysydd o’r busnes, a datblygu sgiliau newydd. Roedd hyn yn cynnwys hwyluso, dadansoddi data, a chyflwyno i uwch reolwyr. Amlygodd y profiad hwn fanteision unigryw gweithio i fusnes 100% sy’n eiddo i’r gweithwyr.
Barn y tîm
Dyma beth oedd gan aelodau tîm y prosiect i’w ddweud am y profiad:
“Roedd bod yn rhan o dîm prosiect Naratif PG yn brofiad hynod gyfoethog. Dysgais llawer am werthoedd a’r hyn y maent yn ei olygu. Rwyf hyd yn oed wedi cydnabod fy ngwerthoedd fy hun fel person. Teimlaf yn mor falch o fod yn rhan o brofiad mor unigryw. Roedd cydweithio â’r tîm yn uchafbwynt. Clywais barn nhw ac roedd hwnna’n werth chweil.” – Sian Wain, Prif Diwtor
“Rwyf wedi dysgu cymaint am werthoedd ein cwmni ac wedi darganfod llawer am fy rhai fy hun. Mae o wedi bod yn brofiad anhygoel i lunio dyfodol ein cwmni. Y rhan orau oedd gweithio gyda tîm mor wych a chlywed syniadau pawb.” – Lee Grindlay, Rheolwr Cyfrif Busnes
“Mae cael y cyfle i gyfrannu a siapio dyfodol Itec fel grŵp wir yn adlewyrchu diwylliant a natur gynhwysol pawb! Rwyf wedi dysgu bod llawer o’n gwerthoedd fel unigolion o fewn y grŵp yn cyd-fynd â’n gilydd. Rydym i gyd wedi cael ein grymuso fel aelodau PG i wneud y gorau dros Itec a’i berchnogion!”– Dewi Richards-Darch, Rheolwr Cwricwlwm
“Roedd o’n dipyn o hwyl! Archwiliwn i werthoedd, ymddygiadau, a’n datganiad o weledigaeth – roedd hyn yn werth chweil. Mae gweithio a rhedeg grwpiau ffocws gyda TSC+ i gasglu gwybodaeth hanfodol wedi bod o gymorth i ni gerflunio ein gwybodaeth. syniadau’n hyfryd.” – Hannah Kane-Roberts, Prif Diwtor
Hanfod Perchnogaeth Gweithwyr
Wrth i ni fyfyrio ar ein taith, daw’n amlwg nad geiriau ar dudalen yn unig yw ein gwerthoedd a’n hymddygiad – nhw ydy anadl eisioes ein sefydliad. Maent yn sail i bopeth a wnawn, gan arwain ein gweithredoedd a’n penderfyniadau. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn ailgadarnhau pam fod PG yn mor bwerus. Mae’n grymuso pob unigolyn o fewn y cwmni i gyfrannu’n ystyrlon, gan sicrhau bod ein gweledigaeth gyfunol yn cael ei gwireddu.
Edrych Ymlaen
Wrth i ni ddathlu Diwrnod PG 2024, gadewch inni weiddi’n uwch nag erioed am bŵer anhygoel PG. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn dyst i’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn dod at ein gilydd fel cymuned. Dyma ddyfodol lle mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn parhau i adlewyrchu’r gorau o bwy ydym ni, ac i gwmni sy’n llwyddo oherwydd ei bobl. #BalchderPG
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















