Cerys Hale

Wynebu heriau iechyd gyda nerth a gwytnwch: Stori Cerys  

 Ymunodd Cerys y rhaglen Ymgysylltiad TSC+ yn fis Gorffennaf 2024. Wnaeth hi sefyll allan ar unwaith fel rhywun penderfynol, aeddfed a galed gweithio. Cefnogodd hi ei chyfoedion, cyfrannodd i weithgareddau grŵp, a chymerodd rôl adweinyddol yn naturiol. Yn aml helpodd pobl eraill i drefnu tasgau a chadwodd  y grŵp wedi eu ffocysu. Wnaeth ei agwedd barchus a pharodrwydd i ddysgu’n gyflym gwneud hi’n fodel rôl yn y canolfan. 

Er ei bod yn wynebu heriau iechyd meddwl a chorfforol cyn ac yn ystod ei hamser ar y rhaglen, doedd hyn ddim am ddod yn ffordd ei huchelgais. Yn lle, mae hi wedi dangos nerth a gwytnwch penigamp, gwthiodd ei hunan i lwyddo mwy nag oedd hi erioed yn disgwyl. 

Ers ymuno TSC+, mae hi wedi llwyddo i gwblhau nifer o gymwysterau, gan gynnwys y 301,  yn bresennol mae hi’n aros am ganlyniadau’r 311. Arweiniodd ei chynnydd, ymrwymiad, ac ymdrech cyson gyda chefnogaeth gan dîm Itec at gael profiad gyda Llyfrgell Penarth ar gychwyn 2026. Mae hi wedi llwyddo’n wirioneddol yn yr amgylched yma. 

Wrth gael profiad ymarferol yn y llyfrgell, mae hi wedi parhau i weithio tuag at gymwysterau Dinas ac Urddau ychwanegol gyda’i thiwtor Itec. Roedd hi’n cydbwyso ei chyfrifoldebau gyda’i datblygiad academaidd. O ganlyniad i’w gwaith caled, adborth ardderchog, a llwyddiant ar y profiad, rŵan mae hi’n gwneud strand Cynnydd y rhaglen. 

Gan feddwl am ei siwrne hyd yma, dywedodd Cerys, “Mae’r rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i fi nad oedd gen i o flaen, dwi wedi sylweddoli gallai gwneud mwy nag oni erioed yn meddwl. [Mae Itec] wedi rhoi’r cyfle i fi ffeindio fy swydd ddelfrydol a chwblhau cyrsiau sy’n werthfawr am oes.”  

Dywedodd Rheolwr Canolfan TSC+ Hannah Kane-Roberts, “Mae o wedi bod yn hynod o werthfawr cael gweld ei thwf. Mae hi’n ymroddedig, gwydn, a phob tro yn trio ei gorau. Mae ’di bod yn bleser go iawn i weld hi llwyddo gyda Llyfrgell Penarth a chreu llwybr eglur i’w gyrfa yn y dyfodol.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau