ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH
Dysgwr
Twf Swyddi Cymru+
Ymunwch fel dysgwr, datblygu eich sgiliau, enillwch brofiad gwaith gwerthfawr, a derbyniwch hyd at £60 yr wythnos!
Rhaglen ddysgu yw Twf Swyddi Cymru +, sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i sicrhau cyflogaeth neu i symud ymlaen i Brentisiaeth neu ddysgu pellach yn y dyfodol. Tra byddwch ar y rhaglen byddwch yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau, cynyddu eich dealltwriaeth, a chynnal eich iechyd a’ch lles.
TSC+ efo Itec
3 strand
3 strand gwahanol sydd fwyaf addas i chi’ch hun.
Cael eich talu wrth ddysgu
Gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos.
Cyfleoedd gwaith yn eich gafael
Mae gennym ni gyfleoedd amser llawn a rhan-amser ar gael gyda chyflogwyr lleol ar draws De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed.
Dechrau efo Twf Swyddi Cymru+
Mae gan Dwf Swyddi Cymru+ dri strand gwahanol i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i symud ymlaen:
Ymgysylltu
Ar y strand hwn byddwn yn nodi ac yn mynd i’r afael ag unrhyw rwystr(au) dysgu a gallai eich atal rhag cymryd rhan mewn dysgu pellach neu symud i mewn i gyflogaeth. Yn ogystal â dysgu yn y ganolfan, byddwch yn cael blas swydd gyda chyflogwr lleol, a’r nod yw cadarnhau eich ffocws galwedigaethol. Byddwch yn cael ehangder a hyblygrwydd y sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen cyn gynted â phosibl, ynghyd â chymorth 1-2-1. Bydd eich cymorth yn cael ei bersonoli i chi a’i deilwra i’ch anghenion a bydd yn cyfateb i ba bynnag sector gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Anelir presenoldeb hyd at 30 awr yr wythnos. Gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos yn y maes hwn.
Dyrchafiad
Mae’r strand hwn ar eich cyfer chi os ydych yn benderfynol ar swydd neu lwybr gyrfa benodol, dyma le gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i ddod a hyn yn wir. Byddwn yn gweithio gyda chi ar eich cynllun dysgu unigol gyda gweithgareddau penodol i gryfhau eich sgiliau, eich galluogi i ddysgu am bwnc, a chael profiad gyda chyflogwyr lleol. Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol tra byddwch yn dysgu ac yn gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.
Anelir presenoldeb at 16-40 awr yr wythnos a gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos yn y strand hwn.
Cyflogaeth
Os ydych chi’n gwybod pa swydd rydych chi ei heisiau, rydych chi’n chwilio amdano, ac yn barod i ddechrau gweithio, gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i gael swydd o fewn 10 wythnos. Byddwn yn dod o hyd i gyfleoedd gwaith i chi gyda chyflogwyr lleol, byddwch yn gallu cael treial gwaith a byddwch yn dod yn rhan o gwmni ac yn derbyn cyflog. Mae’r strand hwn yn darparu cymhorthdal cyflog ar gyfer cyfle am swydd gynaliadwy â thâl.
Anelir presenoldeb at 16-40 awr yr wythnos.
Gallwch dderbyn hyd at £60 yr wythnos nes eich bod yn gyflogedig ac yna’n sicr o dderbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol.
Barod i weithio?
Mae gennym ni gyfleoedd amser llawn a rhan-amser ar gael gyda chyflogwyr lleol ar draws De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed. Os ydych chi’n barod i ddechrau gweithio, cliciwch ar y botwm isod!
Cymhwysedd
Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer unigolion 16-19 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth nag hyfforddiant amser llawn.
Rydym yn darparu Twf Swyddi Cymru+ yng Nghaerdydd, Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Trwy ein sefydliadau partner rydym hefyd yn cyflawni ym Mhowys, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gweler Ein Canolfannau.
Mae’r rhaglen yn agored i ymuno drwy gydol y flwyddyn, felly os oes gennych ddiddordeb clywed mwy neu os hoffech ddechrau eich ymrestriad, anfonwch neges atom yn y blwch isod.
Barod, neu eisiau sgwrsio â rhywun mwy am eich opsiynau? Cysylltwch â ni heddiw.
Rhowch wybod i’n tîm Twf Swyddi Cymru+ pa elfen yr hoffech chi ddechrau arni gan ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni. Neu os nad ydych chi’n siŵr pa lwybr sy’n iawn i chi, gadewch neges i ni a bydd un o’n cynghorwyr yn cysylltu â chi i sgwrsio am eich opsiynau.
“Mae’r adborth rydw i wedi derbyn gan fy ngweithiwr arweiniol wedi fy helpu i ddadansoddi’n union beth sydd angen i mi ei wneud nesaf i symud ymlaen i lefel un. Rwyf ar brofiad mewn salon gwallt ar hyn o bryd, ac rwy’n gweithio gyda fy nhiwtor i gwblhau fy AON. Rwy’n gwybod y gallaf symud ymlaen i lefel un a dechrau fy nghymhwyster trin gwallt gydag anogaeth ac arweiniad Itec.”
“Collais fy mhrofiad cyntaf oherwydd peidio â rhoi’r ymdrech i mewn. Yna gweithiais gyda fy ngweithiwr arweiniol i ddarganfod beth aeth o’i le a beth allwn i fod wedi ei wneud yn wahanol. Rwyf wedi gweithio ar fy mhresenoldeb ac wedi rhoi llawer o ymdrech i mewn i fy mhresenoldeb. Rwy’n nawr ar fy ail brofiad mewn garej, ac ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gymhwyster Mecaneg. Ni fyddwn yn y sefyllfa hon heb fy ngweithiwr arweiniol ac Itec.”
“Yn ystod y cyfyngiadau, roedd Itec a fy nhiwtor wedi rhoi cymorth mor dda i mi i helpu gyda’r straen a achosir gan fy sefyllfa gartref a fy iechyd meddwl. Maen nhw wedi bod yn wych wrth fy helpu i ymdopi yn ystod y cyfyngiadau, dwi’n andros o ddyledus iddyn nhw.”
FAQs Dysgwyr
Beth yDY Twf Swyddi Cymru+?
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy. Mae’n cynnig cefnogaeth trwy hyfforddiant, profiad gwaith, a chyfleoedd gwaith cyflogedig.
Pa fath o gefnogaeth BYDDAI'N derbyn?
Mae TSC+ yn darparu tri phrif strand cymorth:
Ymgysylltu: Yn eich helpu i benderfynu ar lwybr gyrfa.
Dyrchafiad: Yn darparu cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd eich cam nesaf.
Cyflogaeth: Yn helpu chi i gael swydd gyda chymhorthdal cyflog ar gyfer cyfle gwaith cyflogedig a chynaliadwy.
Pa fath o hyfforddiant BYDDAI'N derbyn?
Mae’r hyfforddiant a ddarperir trwy TSC+ wedi’i deilwra i’ch anghenion unigol a’ch goliau gyrfa. Gall cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, sgiliau cyflogadwyedd, a chymwysterau penodol sy’n ofynnol ar gyfer eich llwybr gyrfa ddewisol.
Gallai cael help i ddod o hyd i swydd ar ôl cwblhau'r rhaglen?
Gallech, un o nodau allweddol TSC+ yw eich helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy. Mae’r rhaglen yn cynnwys cymorth ar gyfer chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, a’ch cysylltu â chyflogwyr potensial.
A oes unrhyw gost i ymuno â'r rhaglen?
Na, nid oes unrhyw gost i ymuno â’r rhaglen TSC+ fel dysgwr. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc i dderbyn y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth.
Pa mor hir mae'r rhaglen yn para?
Gall hyd y rhaglen amrywio gan ddibynnu ar anghenion y dysgwr a’r strand cymorth penodol yr ydych yn ei dderbyn. Fel arfer, gall y cyfnodau ymgysylltu a datblygu para sawl wythnos i ychydig o fisoedd.
A fyddaf yn cael fy nhalu tra DWI ar y rhaglen?
Byddwch, byddwch yn derbyn hyd at £60 yr wythnos ynghyd â lwfans cinio dyddiol. Ar gyfer rhai cyfnodau o’r rhaglen, fel y strand Cyflogaeth, byddwch yn derbyn cymhorthdal cyflog a delir gan eich cyflogwr.
Sut GALLAI GWneud cais am TSC+?
Gallwch wneud cais am TSC+ drwy roi gwybod i ni beth yw eich diddordeb drwy ddefnyddio’r dudalen Cysylltwch â Ni.
Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf yn ystod y rhaglen?
Mae TSC+ yn darparu mynediad i ystod o wasanaethau cymorth, gan gynnwys mentora, cwnsela, a chymorth arbenigol i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu rwystrau eraill i gyflogaeth.
Dilynwch Ni Ar-Lein
Mae ein canolfannau’n llawn gweithgareddau yr ydym yn wrth ein bodd yn rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni rŵan.
Ein Clientiaid TSC+






