Home | Cynorthwyydd Marchnata a Swyddog Iaith Gymraeg

Cynorthwyydd Marchnata a Swyddog Iaith Gymraeg

Band Cyflog: £24,500 – £27,000

Sylfaen: Itec House (CF11 8TT, Ar y safle).

Fath o gontract: Llawn amser, parhaol

Oriau gwaith: Dydd Llun i Dydd Gwener

Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS. Bydd cost y gwiriad DBS yn cael ei dalu gan y cwmni.

Mae Itec yn gweithredu fel cyflogwr cyfle cyfartal, ac rydym yn croesawu pob cais beth bynnag fo’u rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd, hil, lliw, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gredoau, anabledd, oedran, barn wleidyddol, neu aelodaeth o undeb llafur.

Mae Itec yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynt os derbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar gyfer y swydd hon.

A woman on the phone talking while looking at her laptop screen. This is to represent a Customer Support Administrator.
Pa sgiliau a phrofiad yr ydym yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr?

Hanfodol

  • Gradd marchnata neu gyfwerth
  • O leiaf blwyddyn o brofiad marchnata
  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Trwydded yrru llawn gyda defnydd eich cerbyd eich hun
  • Parodrwydd i gael gwiriad DBS (y cwmni fydd yn talu am y gost)
  • Mae cymhwyster CIM yn ddymunol
Beth yw cyfrifoldebau craidd y rôl hon?
  • Cydweithio â’r Gweithredwr Marchnata i greu a golygu cynnwys marchnata deniadol, astudiaethau achos, a chyfathrebu mewnol, gan sicrhau eu bod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Rheoli presenoldeb cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan gynnwys creu, amserlennu, a phostio cynnwys dwyieithog ar draws llwyfannau.
  • Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata digidol a chynnal ymchwil marchnad, gan nodi tueddiadau a chyfleoedd, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau’n ddwyieithog ac yn unol â brandio’r cwmni.
  • Cynnal achrediad Cynnig Cymraeg a hyrwyddo adnoddau a chyfleoedd Cymraeg i staff a dysgwyr.
  • Cyfieithu cyfathrebiadau mewnol, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau ac ymholiadau allanol i’r Gymraeg.
  • Gweithio’n agos gyda’r Gweithredwr Marchnata i alinio ymdrechion y Gymraeg gyda chynllun gweithredu Cymraeg a strategaeth hybu diwylliant y busnes.
Pam gweithio efo ni

Mae Itec yn sefydliad sy’n eiddo i’r gweithwyr. Mae ein statws unigryw yn caniatáu i’n gweithwyr gael mwy o ymgysylltiad a pherchnogaeth yn nhwf a llwyddiant Itec yn y dyfodol. Yn Itec rydym yn angerddol am ein pobl ac yn gydweithredol yn y ffordd rydym yn gweithio. Rydym: –

  • Darparwr blaenllaw rhaglenni dysgu yn y gwaith am 40 mlynedd.
  • Sefydliad sy’n eiddo i Weithwyr
  • Aur Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
  • Cyflogwr Cyflog Byw

Fel busnes sy’n eiddo i Weithwyr, ein pobl yw ein prif ased, ac mae gan bawb lais i’r cyfeiriad y mae’r busnes yn mynd iddo. Fel perchennog cyflogedig gwerthfawr, bydd gennych hawl i dderbyn y buddion corfforaethol isod:

  • Cynllun Pensiwn Cyfrannol
  • 30 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
  • Sicrwydd Bywyd Datblygiad personol a chyfleoedd gyrfa
  • Cynllun gofal llygaid
  • Aelodaeth Campfa
  • Cerdyn disgownt UCM
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Costau teithio a milltiroedd busnes
  • Bod yn Berchennog Gweithiwr fel rhan o’r EOT

Y fantais fwyaf diriaethol o fod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yw ein bonws blynyddol; pennir y ganran hon gan berfformiad cyffredinol y sefydliad ac yn amodol ar feini prawf cymhwyso.

Apply for this job

Name(Required)
Accepted file types: pdf, doc, docx, Max. file size: 15 MB.

Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn 2 wythnos, yn anffodus rydych wedi bod yn aflwyddiannus.

Ein Achrediadau