Cwnselydd Rhanbarthol
Band Cyflog: £24,500 to £27,000
Sylfaen: Abertawe, Catell-Nedd, Port Talbot a Pen-y-bont (Ar y safle).
Fath o gontract: Llawn amser, Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis
Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS. Bydd cost y gwiriad DBS yn cael ei dalu gan y cwmni.
Mae Itec yn gweithredu fel cyflogwr cyfle cyfartal, ac rydym yn croesawu pob cais beth bynnag fo’u rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd, hil, lliw, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gredoau, anabledd, oedran, barn wleidyddol, neu aelodaeth o undeb llafur.
Mae Itec yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynt os derbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar gyfer y swydd hon.

Pa sgiliau a phrofiad yr ydym yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr?
Hanfodol
- Diploma neu radd gydnabyddedig mewn Cwnsela.
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion mewn lleoliad cwnsela.
- Parodrwydd i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (cost y cwmni) a chofrestriad CGA.
- Trwydded yrru lawn gyda defnydd eich cerbyd eich hun
Dymunol
- Aelod achrededig o BACP neu gyfwerth.
Beth yw cyfrifoldebau craidd y rôl hon?
- Cadw at Fframwaith Moesegol BACP, gan gynnal ei werthoedd a’i egwyddorion.
- Cyflwyno sesiynau cwnsela unigol a grŵp yn bersonol, dros y ffôn, neu drwy lwyfannau digidol.
- Sefydlu contractau cwnsela a meithrin ymddiriedaeth trwy wrando gweithredol ac empathi.
- Cefnogi cleientiaid yn ddiduedd i ddeall eu pryderon a gwneud penderfyniadau gwybodus.
- Cydweithio â sefydliadau allanol ar gyfer atgyfeiriadau, cyfeirio a gweithdai.
- Cyflawni dyletswyddau Swyddog Diogelu Dynodedig.
- Datblygu a hwyluso hyfforddiant grŵp i ddysgwyr a gweithwyr.
- Cadw cofnodion cywir yn unol â pholisïau diogelu data a chyfrinachedd.
Pam gweithio efo ni
Mae Itec yn sefydliad sy’n eiddo i’r gweithwyr. Mae ein statws unigryw yn caniatáu i’n gweithwyr gael mwy o ymgysylltiad a pherchnogaeth yn nhwf a llwyddiant Itec yn y dyfodol. Yn Itec rydym yn angerddol am ein pobl ac yn gydweithredol yn y ffordd rydym yn gweithio. Rydym: –
- Darparwr blaenllaw rhaglenni dysgu yn y gwaith am 40 mlynedd.
- Sefydliad sy’n eiddo i Weithwyr
- Aur Buddsoddwyr mewn Pobl
- Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
- Cyflogwr Cyflog Byw
Fel busnes sy’n eiddo i Weithwyr, ein pobl yw ein prif ased, ac mae gan bawb lais i’r cyfeiriad y mae’r busnes yn mynd iddo. Fel perchennog cyflogedig gwerthfawr, bydd gennych hawl i dderbyn y buddion corfforaethol isod:
- Cynllun Pensiwn Cyfrannol
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
- Sicrwydd Bywyd Datblygiad personol a chyfleoedd gyrfa
- Cynllun gofal llygaid
- Aelodaeth Campfa
- Cerdyn disgownt UCM
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Costau teithio a milltiroedd busnes
- Bod yn Berchennog Gweithiwr fel rhan o’r EOT
Y fantais fwyaf diriaethol o fod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yw ein bonws blynyddol; pennir y ganran hon gan berfformiad cyffredinol y sefydliad ac yn amodol ar feini prawf cymhwyso.
Gwneud Cais Swydd
Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn 2 wythnos, yn anffodus rydych wedi bod yn aflwyddiannus.